Gorymdaith y Nadolig Abertawe

Roedd dawnswyr, bandiau, corau, fflotiau, offer chwyddadwy, cymeriadau wedi’u goleuo, tywysogesau, archarwyr a llawer mwy yn rhan ohoni – gan gynnwys Siôn Corn ei hun, a ddaeth ag ychydig o hwyl yr ŵyl gydag e’ er mwyn cynnau goleuadau’r Nadolig.

Dewch i weld eich hoff dywysogesau ac archarwyr, ac i gael eich syfrdanu gan wisgoedd ac arddangosfeydd swynol wedi’u goleuo. Bydd gorymdaith eleni’n llawn hwyl yr ŵyl gan fod cannoedd o bobl ifanc o grwpiau cymunedol y ddinas wedi achub ar y cyfle i fod yn rhan ohoni.

Bydd tywysogesau ac arwyr, ceirw wedi’u goleuo ac adar enfawr hudol Gwledd y Gaeaf yn ymuno â chast o gannoedd ar gyfer Gorymdaith y Nadolig eleni yng nghanol y ddinas. Bydd cerbyd tywysoges, cymeriadau o’r sioe gerdd boblogaidd, ynghyd â chast o gannoedd o wirfoddolwyr o’r gymuned i’w gweld ar strydoedd canol y ddinas wrth i’r paratoadau gychwyn ar gyfer cyfnod y Nadolig.

Bydd hen ffefrynnau’n dychwelyd a rhai newydd yn ymuno, yn ogystal â goleuadau, cerddoriaeth, peiriannau eira, tân gwyllt a Siôn Corn ei hun! Paratowch i groesawu tymor yr ŵyl mewn steil!

Princess in a snowglobe on a float in the swansea christmas parade

Hygyrchedd

Bydd synau uchel, goleuadau’n fflachio ac effeithiau arbennig yn ystod yr orymdaith – os oes angen rhywle mwy tawel arnoch i fwynhau’r orymdaith, bydd y rhan dawelaf ar ran isaf Ffordd y Brenin (ochr St Helen’s Road) a Stryd Fawr. Ond dylech sylweddoli bod natur yr orymdaith yn golygu y bydd sŵn a goleuadau’n bresennol trwy gydol y digwyddiad. Os oes gennych unrhyw bryderon ac rydych am eu trafod ymhellach, ffoniwch ni ar 01792 635428. Bydd ardal wylio hygyrch ar gael ar Princess Way ac Orchard Street.

Does dim angen cadw lle, dewch ar y noson. Toiledau hygyrch a nifer cyfyngedig o seddi ar gael hefyd yn yr ardaloedd gwylio.

Light up reindeer floats in the swansea christmas parade

Parcio a theithio

Mae gorymdaith eleni'n dechrau am 5.00pm a disgwylir iddi orffen am oddeutu 6.30pm ar ddiwedd Ffordd y Brenin. Sylwer y disgwylir i ganol y ddinas fod yn brysur iawn yn ystod y prynhawn a thrwy gydol y digwyddiad - sicrhewch eich bod yn cynllunio'ch trefniadau teithio yn briodol ac yn caniatáu digon o amser i gyrraedd er mwyn gweld llwybr yr orymdaith!

Gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth am deithio i'r orymdaith, gan gynnwys pa ffyrdd sydd ar gau a lle i barcio yma.

 

Hoffech chi noddi'r digwyddiad hwn?

Mae cyfleoedd nawdd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn.  Mae pecynnau ar gael sy'n addas i bob cyllideb y gellir eu teilwra i ddiwallu'ch anghenion a'ch amcanion.  I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni, e-bostiwch sales@swansea.gov.uk

Hoffem ddiolch yn fawr i’r

Cynnig Gofal Plant i Gymru am gefnogi Trên Bach y Nadolig
Childcare offer sponsor

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru: Help gyda chostau gofal plant i rieni cymwys â phlant 3 i 4 oed.
Oes angen help arnoch gyda chostau gofal plant? Dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, gallech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae’r cynllun gofal plant hwn a ariennir gan y llywodraeth yn ceisio lleihau’r baich o dalu costau gofal plant fel y gallwch wario’r arian rydych wedi’i gynilo ar y pethau sydd bwysicaf i’ch teulu.
Mae’r cynnig eisoes wedi helpu rhieni ledled Cymru i ddychwelyd i’r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio’n fwy hyblyg. Os ydych yn chwilio am swydd neu’n ystyried dychwelyd i fyd addysg neu hyfforddiant, ond rydych yn pryderu am gostau gofal plant, gallai’r cymorth hwn wneud byd o wahaniaeth.
Peidiwch â cholli allan ar eich cyfran chi o’r cyllid gofal plant hwn.
Gwnewch gais nawr i dderbyn gofal plant a ariennir.
 

Gwesty Morgans am ddarparu ystafelloedd newid

Morgans Hotel logo

Day’s Rental a Day’s Motor Group am ddarparu’r cerbyd cymorth

Days Rental logo

Days Motor Group

Bassets Motor Group Jeep am ddarparodd car yr Arglwydd Faer.
Bassetts Jeep logo
 

Darganfyddwch Abertawe'r Nadolig hwn

Digwyddiadau Tymhorol

Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn byddwch yn ymweld â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, mae rhaglen ddigwyddiadau ffyniannus, golygfeydd gwych i'w harchwilio a bwydydd lleol blasus.

Marchnad Nadolig Abertawe

Mae crefftwyr dawnus, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd blasus yn dychwelyd i Farchnad Nadolig Abertawe. Bydd cabanau Nadoligaidd ar hyd Stryd Rhydychen a Portland Street yn…