Siopa
Mae Abertawe'n lle gwych i fwynhau ychydig o siopa. Mae canol y ddinas yn gartref i Ganolfan Siopa'r Cwadrant, lle gallwch ddod o hyd i siopau poblogaidd. Ewch am dro ar hyd Stryd Rhydychen, y Stryd Fawr a Ffordd y Brenin i ddarganfod amrywiaeth eang o fusnesau annibynnol a siopau'r stryd fawr. A pheidiwch ag anghofio Marchnad Abertawe, a enillodd wobr Marchnad Dan Do Fawr Orau Prydain 2024. Mae ganddi dros 50 o fusnesau annibynnol o dan yr un to, felly dyma'r lle gorau i brynu pice ar y maen ffres a'r danteithfwydydd lleol, cocos a bara lawr.
Ewch i'r Mwmbwls i dreulio prynhawn yn edrych ar y bwtigau annibynnol a'r siopau unigryw, neu ewch ymhellach i ffwrdd i barciau manwerthu'r Morfa a Pontarddulais Road.
Darganfod rhagor
Pethau i'w Gwneud
Does dim llawer o leoedd lle gallwch siopa yn y bore a syrffio yn y prynhawn. Gallwch gael y gorau o ddau fyd ym Mae Abertawe!
Cynigion
Isod mae'r cynigion diweddaraf gan ein partneriaid ar gyfer bwyd, diod, atyniadau, gweithgareddau a phethau i'w gwneud
Bwyd a Diod
Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i…