Dylan Thomas

Ganed Dylan Thomas (1914-1953), llenor mwyaf enwog Cymru, yn Abertawe a bu'n byw yno'n barhaol nes ei fod yn ugain oed. Hyd yn oed ar ôl symud i ffwrdd, byddai’n parhau i ymweld â’i dref enedigol yn rheolaidd i chwilio am ysbrydoliaeth.

Ganed Dylan yn ardal Uplands y ddinas ar 27 Hydref 1914. Dyma ble cafodd ei fagu ac ysgrifennodd ddau draean o'i holl farddoniaeth yno, yn ogystal â sawl llythyr a stori fer.

Gellir darganfod tirnodau amrywiol sy'n gysylltiedig â'i fywyd a'i waith cynnar trwy ddilyn Llwybrau Dylan Thomas. Mae etifeddiaeth Dylan i'w gweld ym mhob man, o'i gartref yn 5 Cwmdonkin Drive a Pharc Cwmdoncyn gerllaw, i gyrchfan tawel y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr.

Mae Casgliad Dylan Thomas Dinas a Sir Abertawe'n amrywio o bethau cofiadwy ac arddangosfa yng Nghanolfan Dylan Thomas i ddeunyddiau academaidd a gedwir yn y Llyfrgell Ganolog.

Peidiwch â cholli Dylan's Bookstore ar King Edward Road, sy'n llawn llyfrau prin a chasgladwy gan Dylan Thomas ac amdano, yn ogystal â phethau cofiadwy gwerthfawr eraill a ffotograffau.

Mae arddangosfa barhaol, Man and Myth, hefyd ar gael yng Nghanolfan Dylan Thomas ar lannau Afon Tawe, ger yr Ardal Forol.

Darganfod mwy am Dylan Thomas

Pobl a Lleoedd

O ddiwydiant trwm i gelfyddyd wych, mae’n anodd categoreiddio stori Bae Abertawe’n hawdd. Dilynwch linell o’r gorffennol pell i’r presennol, a byddwch yn dod o hyd i straeon brenhinoedd chwedlonol, sêr opera…

Hanes a Threftadaeth

Mae lleoliadau Bae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr yn llawn hanes, o gestyll hynafol, môr-ladron a smyglwyr i'w hanes diwydiannol cyfoethog gyda gwaith copr Abertawe a threftadaeth ddiwylliannol eiconau llenyddol fel Dylan Thomas.