Abertawe Wledig
Felly, yn ôl pob sôn, mae mwy i Fae Abertawe na’r ddinas, y Mwmbwls a Gŵyr. Mae’r hwyl yn parhau!
Mae digon o swyn yn llonyddwch cefn gwlad Abertawe wledig. Mae Mawr a Dyffryn Lliw ymysg y ffefrynnau. Mae Mawr yn un o’r cymunedau hynaf yng Nghymru ac mae’n cynnig ardaloedd diddorol iawn i’w harchwilio (hyd yn oed os taw ni sy’n dweud hynny!)
Bydd llawer o deithiau cerdded tawel yn eich croesawu, p’un ai’n daith gerdded fer neu’n daith gerdded hwy o amgylch Cronfa Ddŵr Lliw. . Gallwch werthfawrogi byd natur a chwilio am adar a bywyd gwyllt gwych hefyd. Ewch i Goed Cwm Penllergaer i ganfod y rhaeadr – ond pwyllwch – efallai na fyddwch am adael. Dyluniwyd y tirluniau yn y coetir hwn ddechrau’r 19eg ganrif gan berchennog tir lleol ac maen nhw’n cael eu hadfer i’w gogoniant blaenorol ar hyn o bryd.
Os ydych yn barod am her, gwisgwch eich esgidiau cerdded a dringo i Benlle’r Castell. . HDyma’r pwynt uchaf yn Abertawe, mae’n dipyn o olygfa. Dylech chi ddod â chamera hefyd! O’r man hwn, gallwch ddechrau cerdded Ffordd Gŵyr, llwybr cerdded 35 milltir ar draws y penrhyn o’r dwyrain i’r gorllewin.
Os nad ydych chi’n hoffi cerdded, cyfnewidiwch eich esgidiau cerdded am olwynion a dilynwch y Llwybrau Beicio Cenedlaethol trwy’r ardal – dyna ffordd wych o archwilio! Mae Abertawe wledig yn bell o sŵn a phrysurdeb y ddinas, a dyna’r peth gwych amdani. Dihangwch i gefn gwlad os oes angen tawelwch arnoch chi.
Pethau i’w gwneud a lleoedd i aros:
Mwy am Abertawe wledig:
Ydy cefn gwlad yn eich galw? Mae’n gallu anfon e-byst nawr hefyd! O bryd i’w gilydd, rydyn ni’n anfon e-byst gyda gwybodaeth i ymwelwyr a’r wybodaeth ddefnyddiol ddiweddaraf. Os ydych chi’n awyddus i gael y newyddion diweddaraf, rhowch eich enw a’ch cyfeiriad e-bost yn y ffurflen isod.