fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Chwilio Chwedlau

Share

Mae’ch anturiaeth fythgofiadwy’n dechrau yma...

Mae gan Fae Abertawe hanes cyfoethog a gafaelgar. O gartrefi cynhanes ein hynafiaid a fu'n byw mewn ogofâu i gestyll canoloesol, llongddrylliadau dirgel a straeon am smyglwyr; gellir cael mewnwelediad i orffennol hynod ddiddorol yr ardal ym mhob man. Amgueddfa Abertawe (amgueddfa hynaf Cymru), Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy'n gwbl ryngweithiol, Maen Ceti a Chastell Ystumllwynarth gyda'i olygfeydd trawiadol dros Fae Abertawe ... dyma rai yn unig o atyniadau hanesyddol mwyaf swynol Cymru a Phrydain. #ChwilioChwedlau