Abertawe
Abertawe yw Dinas Glannau Cymru. Mae’n sefyll ar 5 milltir o draeth Bae Abertawe ac yn lleoliad gwych i archwilio’r gorau sydd gan dde-orllewin Cymru i’w gynnig.
Mae canol dinas Abertawe’n ganolfan fywiog â thros 230 o siopau a marchnad wych sy’n gartref i bob math o ddanteithion lleol.
Mae llawer o leoedd i ymweld â nhw, gan gynnwys Canolfan Dylan Thomas, Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac enwi ychydig yn unig. Un o amgueddfeydd Abertawe yw un newyddaf Cymru a’r llall yw un hynaf Cymru – fe’i disgrifiwyd gan Dylan Thomas fel “museum that belongs in a museum”.
Cysgu, Bwyta, Archwilio, Ailadrodd
Mynd i’r awyr agored? Dewch i archwilio rhai o barciau a gerddi niferus Abertawe mae gan 5 ohonyn nhw Wobr y Faner Werdd (Gerddi Clun, Gerddi Botaneg Singleton, Parc Victoria, Parc Cwmdoncyn a Pharc Brynmill) ac maent yn lleoedd gwych i fynd gyda’r teulu; ar ôl codi ychydig o ddanteithion blasus ym Marchnad Abertawe, ar gyfer picnic, wrth gwrs.
Os ydych yn chwilio am weithgareddau at bob tywydd, ewch draw i Gyfadeilad Hamdden yr LC gyda’i barc dŵr, lle chwarae meddal, waliau dringo a chanolfan ffitrwydd.
Bwriwch iddi
Mae Abertawe’n lle da i’r rhai sy’n dwlu ar fwyd hefyd. Mae bwyd at ddant pawb gydag amrywiaeth o frandiau enwog, bwytai annibynnol a bistros bwtîg. Wrthi’n trefnu pryd rhamantus neu ginio gyda’r teulu? Edrychwch ar rai o’r lleoedd gwych sydd gennym i fwyta ac yfed..
Gallwch gael cinio ar ben adeilad uchaf Cymru hyd yn oed â golygfeydd 360 gradd anhygoel, sy’n cynnwys ehangder 5 milltir traeth Bae Abertawe.