fbpx
St David’s Place
Ddydd Sadwrn, 26 Hydref 2024

Dewch i archwilio’r lleoliadau Awyr Dywyll gorau ym Mhenrhyn Gŵyr

Mae Cymru’n lwcus iawn o ran awyr dywyll ac mae’r rheini a welir dros Benrhyn Gŵyr yn cael eu hystyried ymhlith y goreuon yn y wlad ar gyfer y bobl sy’n mwynhau gwylio’r sêr. Mae’r traethau diarffordd a’r tiroedd comin gwledig yn rhydd o ymyrraeth fodern a all rwystro darpar seryddwyr. Ar noson glir gallwch ryfeddu ar yr awyr wrth wrando ar y tonnau yn y pellter, neu ambell ddafad yn brefu…

Bywolau prydferth

Yr amser gorau i syllu ar y sêr yw o gwmpas lleuad newydd, gan fod llai o olau lleuad i guddio’r sêr. Mae lleuadau newydd yn achosi llanwau uchel ac isel iawn (a elwir yn orllanw, dim byd i’w wneud â’r tymor!) felly gwnewch yn siŵr bod eich ymweliad gyda’r nos yn cyd-fynd â llanw isel os yn bosib.

Yn ystod nosweithiau cynhesach yr haf, edrychwch ar y môr, mae disgleiriad hudol plancton bywolau i’w weld mewn mannau fel Caswell, Bae y Tri Chlogwyn a Phorth Einon.

Ble i fynd

Ystyrir Porth Einon yn berl ar gyfer mwynhau’r awyr dywyll, mae’r traeth mawr wedi’i amgáu mewn cromlin ac yn edrych allan ar ddim byd ond milltiroedd o Fôr Hafren, mae’n hawdd ei gyrraedd ac yn berffaith ar gyfer gwylio’r awyr.

Mae Bae y Tri Chlogwyn yn fan tywyll sydd allan o’r ffordd, cymerwch ofal yma, mae’r ardal hon yn fwy anodd i’w chyrraedd a gall y llanw rwystro rhai llwybrau.

Nid yw Oxwich mor ddiarffordd â rhai o’r ardaloedd eraill ond mae’n hawdd ei gyrraedd, gyda digon o le a chyfleusterau gerllaw.

Mae’r tiroedd uchel yn Rhosili a Chefn Bryn yn cynnig golygfeydd i bob cyfeiriad. Unwaith eto, cymerwch ofal yn Rhosili, mae’r golygfeydd yn syfrdanol ond cadwch draw o ymylon peryglus y clogwyni a gwnewch yn siŵr bod eich llwybr wedi’i oleuo’n dda os ydych chi’n mynd i lawr i’r traeth.

Beth i fynd ag ef gyda chi

Tortsh, mae’n dywyll! Mae tortsh pen yn cadw’ch dwylo’n rhydd.

Gwisgwch esgidiau addas, mae’r tir yn anwastad ac yn aml yn wlyb.

Gall fynd yn oer iawn felly gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd â dillad cynnes – cot, het, menig, sgarff etc.  Gwisgwch ddigon o haenau, gallwch chi bob amser dynnu haen ond ni allwch ychwanegu.

Os oes gennych chi offer arbenigol, mae hynny’n wych ond byddech chi’n synnu faint y gallwch chi ei weld gyda phâr o ysbienddrych, ac ansawdd y lluniau y gallwch chi eu tynnu gyda ffôn clyfar.

Yn olaf, peidiwch ag anghofio cadair a fflasg o rywbeth cynnes.

Diogelwch

Ewch â thortsh, gwisgwch esgidiau addas!

Gwiriwch amseroedd y llanw, mae rhai traethau yn anoddach i’w cyrraedd ac nid yw rhai yno o gwbl pan fydd y llanw i mewn felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio cyn i chi fynd allan. Pan mae hi’n dywyll iawn ni fyddwch yn gallu gweld y dŵr nes y byddwch ynddo…

Gall llwybrau arfordirol fod yn ansefydlog yng ngolau dydd felly cymerwch ofal mawr wrth gerdded yn y nos, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod eich llwybr a’ch bod yn gallu gweld i ble rydych yn mynd!

Mae’r ffyrdd o amgylch Gŵyr yn gartref i fywyd gwyllt a da byw, felly byddwch yn ymwybodol o hyn wrth yrru gyda’r hwyr.

Os ydych chi’n mynd ar eich pen eich hun, rhowch wybod i rywun beth yw’ch cynlluniau. Arhoswch yn ddiogel.

Ble i aros

Mae cymaint o opsiynau llety ar eich cyfer, mae llawer ohonynt dafliad carreg o’r traeth felly ni fydd yn bell i fynd adref ar ôl noson o edmygu’r ehangder wybrennol. Mae gan Benrhyn Gŵyr hefyd rai o’r gwersylloedd mwyaf prydferth yn y wlad a’r peth cyntaf y byddwch chi’n ei weld wrth agor eich pabell yw’r môr. Cymerwch gip ar ein tudalennau llety.

Lle i aros

Ble i fwyta

Cyn i chi fynd allan, bwytwch bryd o fwyd poeth blasus ac yfwch baned o goffi i’ch cadw chi i fynd, mae llawer o dafarndai gwledig clyd a bwytai yn yr ardal, dewch o hyd i rywle yma.

Bwyd a diod