Cyfleoedd Noddi Digwyddiadau
Mae gan Gyngor Abertawe enw da sefydledig am lwyfannu a darparu digwyddiadau mawr arobryn.
Rydym yn chwilio am noddwyr sy’n dymuno rhannu’r llwyddiant hwnnw a phartneru â ni i sicrhau rhaglen ddigwyddiadau ddynamig a chynaliadwy flynyddol ar gyfer y dyfodol.
Mae noddi digwyddiadau’n cynnig y cyfle i fusnesau dargedu a chynnwys y gymuned leol, wrth godi proffil brand y cwmni. Mae pecynnau ar gael sy’n addas i bob cyllideb y gellir eu teilwra i ddiwallu’ch anghenion a’ch amcanion.
Mae digwyddiadau’n cynnwys:
- Croeso
- Sioe Awyr Cymru
- Gŵyl Jazz
- 10k Admiral
- Theatr Awyr Agored
- Ysbrydion yn y Ddinas
- Tân gwyllt
- Gorymdaith y Nadolig
I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni, e-bostiwch Commercial@swansea.gov.uk
Dewch yn Bartner
Isod mae'r cynigion diweddaraf gan ein partneriaid ar gyfer bwyd, diod, atyniadau, gweithgareddau a phethau i'w gwneud.