Polisi Cwcis

Cwcis

Pan fyddwn yn darparu gwasanaethau, rydym am sicrhau eu bod yn gyfleus, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Pan ddarperir gwasanaethau drwy'r rhyngrwyd, weithiau gosodir darnau bach o wybodaeth ar eich dyfais, er enghraifft, eich cyfrifiadur neu'ch ffôn symudol. Mae'r rhain yn cynnwys ffeiliau bach o'r enw cwcis. Nid oes modd eu defnyddio i ddatgelu pwy ydych chi.

Defnyddir y darnau hyn o wybodaeth i wella gwasanaethau i chi, er enghraifft:

  • galluogi gwasanaeth i adnabod eich dyfais fel na fydd yn rhaid i chi roi'r un wybodaeth sawl gwaith yn ystod yr un dasg;
  • cydnabod bod gennych enw defnyddiwr a chyfrinair eisoes fel na fydd angen i chi wneud hyn bob tro rydych yn mynd i dudalen we newydd;
  • cyfrif nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau er mwyn eu gwneud yn haws eu defnyddio, a mesur bod digon o allu i sicrhau eu bod yn gyflym.
  • Gallwch reoli'r ffeiliau bach hyn eich hunan drwy ddarllen yr wybodaeth ganlynol ar wefan Directgov www.direct.gov.uk/managingcookies.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gwcis, gan gynnwys sut mae gweld pa gwcis sydd wedi'u gosod a sut i'w rheoli a'u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org.

 

Sut rydym yn defnyddio cwcis

Mae'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon wedi'u categoreiddio, ar sail y categorïau a geir yn Arweiniad i Gwcis ICC UK (www.international-chamber.co.uk). Mae rhestr o'r holl gwcis a ddefnyddir ar y wefan hon i'w gweld fesul categori isod.

 

Categori 1: cwcis sy'n gwbl angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn angenrheidiol er mwyn eich galluogi i gyrchu'r wefan a defnyddio'i nodweddion, fel cyrraedd mannau diogel ar y wefan. Heb y cwcis hyn, ni ellir darparu gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt, fel e-fasnach.

Drwy ddefnyddio'n gwefan, rydych yn cytuno ein bod yn gallu rhoi'r mathau hyn o gwcis ar eich dyfais.

 

Categori 2: cwcis perfformiad

Mae'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth am sut mae defnyddwyr yn defnyddio gwefan, er enghraifft pa dudalennau y mae pobl yn mynd iddynt amlaf ac os ydynt yn cael negeseuon gwall o'r gwe-dudalennau. Nid yw'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth sy'n enwi defnyddiwr. Caiff yr holl wybodaeth y mae'r cwcis hyn yn ei chasglu ei chyfuno ac felly mae'n ddienw. Caiff ei defnyddio i wella sut mae gwefan yn gweithio'n unig.

I ddewis peidio â chael eich olrhain gan Google Analytics ar draws pob gwefan, ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout

I ddysgu rhagor am gwcis Facebook, ewch i https://www.facebook.com/help/?page=176591669064814

Drwy ddefnyddio'n gwefan, rydych yn cytuno ein bod yn gallu rhoi'r mathau hyn o gwcis ar eich dyfais.

Mae'r gwasanaethau a ddefnyddir gan croesobaeabertawe.com fel a ganlyn:

  • Google Analytics
  • WordPress
  • Teclynnau Facebook
  • YouTube
  • ShareThis
  • Google+
  • Twitter

Mae cwcis yn cael eu defnyddio gan bob un o’r gwasanaethau hyn ac rydym hefyd yn defnyddio cwcis sesiwn.

 

Google Analytics

Mae opsiynau ar gyfer hysbysebu gweledol yn Google Analytics wedi'u galluogi ar y wefan hon. Mae hyn yn golygu y gall Google Analytics ddarparu lefel uwch o wybodaeth am ymwelwyr â'r wefan hon, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i oedran, rhyw a diddordebau. Defnyddir yr opsiynau uwch hyn i ddeall mwy am yr ymwelwyr â croesobaeabertawe.com yn unig. Nid yw unrhyw ddata a gesglir yn caniatáu i wefan Croeso Bae Abertawe nodi unigolion. Defnyddir y data i nodi tueddiadau yn unig.

  • Bwriedir i'r data sy'n cael ei gasglu gael ei ddefnyddio at ddibenion ail-farchnata ac adrodd ar ddata am ddemograffeg a diddordebau Google Analytics (gellir hefyd ddefnyddio nodweddion Google Display Network Impression Reporting a DoubleClick Campaign Manager).
  • Drwy ddefnyddio gosodiadau hysbysebu Google, gall defnyddwyr optio allan o Google Analytics ar gyfer hysbysebu gweledol ac addasu hysbysebion Google Display Network.
  • Gall croesobaeabertawe.com ddefnyddio nodwedd ailfarchnata drwy Google Analytics er mwyn hysbysebu ar-lein.
  • Mae hyn yn golygu y gall gwerthwyr trydydd parti, gan gynnwys Google, ddangos hysbysebion o croesobaeabertawe.com ar wefannau ar draws y rhyngrwyd.
  • Mae croesobaeabertawe.com a gwerthwyr trydydd parti gan gynnwys Google yn defnyddio cwcis parti cyntaf (fel cwci Google Analytics) a chwcis trydydd parti (fel cwci DoubleClick) gyda'i gilydd i hysbysu, optimeiddio a chyflwyno hysbysebion yn seiliedig ar ymweliadau rhywun â'ch gwefan yn y gorffennol.
  • Gall croesobaeabertawe.com a gwerthwyr trydydd parti, gan gynnwys Google, ddefnyddio cwcis parti cyntaf (fel cwcis Google Analytics) a chwcis trydydd parti (fel cwci DoubleClick) gyda'i gilydd i adrodd ar sut mae argraffiadau eich hysbysebion, defnyddiau eraill o wasanaethau hysbysebu, rhyngweithiadau â'r argraffiadau hysbysebion hyn a gwasanaethau hysbysebu yn gysylltiedig ag ymweliadau â'ch gwefan.
  • Defnyddir data oedran, rhyw a diddordeb a gesglir drwy Google Analytics i sicrhau bod cynnwys ar-lein a gweithgarwch marchnata ar-lein a gynhelir gan Croeso Bae Abertawe yn berthnasol i'w broffiliau ymwelwyr ar-lein.

Mae nifer o opsiynau ar gyfer optio allan o gyflwyno eich data i Google Analytics a gellir dod o hyd i'r rhain yma.