Priodasau

Bae Abertawe yw'r lle perffaith i gynnal priodas, gyda golygfeydd godidog a fydd yn sicr o greu argraff ar ddiwrnod eich priodas.  

O ganol y ddinas i leoliadau mwy personol yng nghefn gwlad, mae Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr yn gartref i amrywiaeth eang o leoliadau trwyddedig sy'n boblogaidd ymhlith cyplau drwy gydol y flwyddyn.  

Gyda'n traethau hardd, ein parciau croesawgar a'n lleoliadau hanesyddol, mae Bae Abertawe hefyd yn gartref i rai o'r lleoedd mwyaf prydferth ar gyfer eich lluniau priodas.  

Gwybodaeth i Ymwelwyr

Ydych chi’n trefnu taith ond heb wybod sut i ddod o hyd i ni? Neu efallai eich bod chi am lawrlwytho arweiniad neu mae angen gwybodaeth am hygyrchedd arnoch chi. Cewch hynny a mwy yn y ddewislen ar y chwith.