Llwybr Cerdded Trwyn Oxwich

Trwyn Oxwich: taith drawiadol o gwmpas un o drwynau mwyaf prydferth a dramatig Gŵyr; trwy goetir prydferth ac ar draws clogwyni agored gan ddefnyddio rhan o Lwybr Arfordir Gŵyr.

Pellter: 3.5 milltir (5.6km).
Amser: Caniatewch 2-4 awr.
Byddwch yn barod: Mae’n ddoeth gwisgo esgidiau neu fwts cryf a dillad dwrglos. Tarmac a pheth tir anwastad o gwmpas y gronfa. Rhai camfeydd, un rhes o risiau ac un ffordd weddol serth.
Diogelwch: Byddwch yn ofalus wrth ddilyn y rhan fer sydd ar yr heol – does dim palmant. Mae’r llwybr yn mynd yn agos at glogwyni a llethrau serth. Mae rhan goetirol y daith ar dir anwastad sy’n dueddol i fod yn fwdlyd ac mae’n cynnwys rhes hir o risiau. Does dim camfeydd yn y daith fyrrach, ond mae tair ohonynt ar y daith hirach. Paratowch yn dda trwy wisgo dillad ac esgidiau priodol ar gyfer yr amodau ac adeg y flwyddyn.
Lluniaeth: Mae amrywiaeth eang o luniaeth a phrydau ar gael yng Ngwesty Bae Oxwich a siop y pentref. Toiledau gyferbyn â’r gwesty.

St Illtyd Church, Oxwich
Eglwys Oxwich

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk

Dolenni ychwanegol

Swansea Bay without a car
Traveline Cymru

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.