Traeth Bae Rhosili

Ble i ddechrau? Mae Bae Rhosili bob tro’n cael ei gynnwys yn rhestr 10 traeth gorau Cymru ac fe’i pleidleisiwyd fel y traeth gorau sawl tro. Mae wedi ennill sawl gwobr arall, gan gynnwys gwobr Travellers’ Choice TripAdvisor, ac mae’n un o’r mannau mwyaf prydferth yn y DU!

Disgrifiwyd Rhosili fel “archfodel traethau Prydain” gan The Independent ac mae wedi ennill anrhydeddau gan ysgrifenwyr teithio’r DU a gwobrau fel y lle gorau i gael picnic, un o leoliadau syrffio gorau Cymru a, heb anghofio’n hanifeiliaid anwes, enwebiad ar gyfer ‘y traeth gorau i gŵn yn y DU’ gan The Times.

Felly pam mae’n denu’r fath sylw?

3 milltir o draethau tywodlyd sy’n amgylchynu un o dirnodau enwocaf Gŵyr, Pen Pyrod; mae’n addas ar gyfer chwaraeon dŵr, yn enwedig syrffio, oherwydd tonnau’r Iwerydd, a gellir adeiladu cestyll tywod gyda’r tywod mân euraid. Ceir golygfeydd heb eu hail y gallwch eu mwynhau o’r llwybrau cerdded niferus, sy’n cynnwys y traeth, Pen Pyrod a’r clogwyni, ac efallai y gwelwch ambell forlo’n torheulo neu ddolffiniaid yn chwarae yn y môr. Ac wrth gwrs, mae Bae Rhosili’n rhan o Lwybr Arfordir Gŵyr.

Sut i gyrraedd yno

Gellir cyrraedd pentref Rhosili, sydd ar ddiwedd penrhyn Gŵyr, mewn car neu ar gludiant cyhoeddus (SA3 1PP).

Gallwch gyrraedd Bae Rhosili drwy gerdded i lawr grisiau o’r pentref ger y maes parcio. Mae angen cerdded i lawr yn eithaf pell, ac yn anffodus, ni all cadeiriau olwyn fynd ar hyd y llwybr hwn. Mae’r golygfeydd ysblennydd yn sicr yn werth yr ymdrech. Ewch ar ddiwrnod heulog a chofiwch eich camera! Fel arall, ewch am dro ar hyd y llwybr cymharol wastad tuag at y Ganolfan Gwylio a mwynhewch y golygfeydd ar draws y bae a thuag at Ben Pyrod.

Cyfleusterau

Maes Parcio: Tua 400m i ffwrdd o’r bae. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/rhosili-ac-arfordir-de-gyr

Toiledau: Toiled cyhoeddus 24 awr gyda RADAR Ystafell newid babanod neillryw a chawod awyr agored.

Lluniaeth: Mae sawl man gwerthu bwyd yn y pentref – cymerwch gip ar ein tudalennau lleoedd i fwyta.

Cludiant cyhoeddus: Oes, gall y pellter rhwng y safle bws a’r traeth gynnwys tir garw.

Cŵn: Fe’u caniateir ar y traeth drwy’r flwyddyn.

Mynediad i gadeiriau olwyn: Nid i’r traeth.

Achubwyr Bywydau: Nac oes.

Mae lleoedd parcio, cludiant cyhoeddus a lluniaeth ar gael 400m o’r bae.

Surfer walking down to Rhossili Bay Beach
Paragliding at Rhossili
wreckage of the Helvetica shipwreck sticking out of the beach in Rhossili

Arhoswch yn ddiogel!

Pan fyddwch yn mynd i Ben Pyrod, gwiriwch amserau’r llanw ac ewch i’r Ganolfan Gwylio. Peidiwch â chrwydro’n rhy bell oddi ar y prif lwybr ar hyd y pentir; mae’r clogwyni’n serth iawn!

 

Ladrata a Smyglo

Ar adeg trai, cadwch lygad am y llong ddrylliedig Helvetia, a ddrylliwyd ym 1887.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am hanes môr-ladron a smyglwyr Gŵyr.

Archwiliwch ragor