Llwybr Cerdded Pen-maen (mynd i gerdded ar y bws)

Archwiliwch safle Pen-maen, pentref hynafol wedi’i gladdu gan dywod. Mwynhewch olygfeydd godidog o Fae y Tri Chlogwyn. Mwynhewch y blodau gwyllt sy’n arogli’n hyfryd. Dyma enghreifftiau o’r wledd y gallwch ei mwynhau ar hyd y llwybr hwn. 

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Dechrau a Gorffen: Safle bws ym Mhen-maen.
Pellter: Oddeutu 1 1/4 milltir (2km).
Amser:1/2 awr – 1 awr.
Natur y tir: Mae arwyneb y tir yn amrywio o galed i feddal ac anwastad. Mae 2 lethr serth.
Gwybodaeth am Ddiogelwch: Byddwch yn ofalus wrth groesi’r ffordd brysur. Mae’r llwybr yn agos at glogwyni a llethrau serth uwch ben yr arfordir.
Byddwch yn barod: Gwisgwch ddillad ac esgidiau sy’n addas ar gyfer yr amodau a’r tymor.
Gwybodaeth ddefnyddiol:  Siop/caffi a thafarn yn Parkmill, 2 filltir tuag at Abertawe. Dim toiledau cyhoeddus.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk

Dolenni ychwanegol

Swansea Bay without a car
Traveline Cymru

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.