Llwybr Cerdded Cronfa Ddŵr Lliw Isaf

Mae hon yn daith gerdded gymharol hawdd o amgylch Cronfa Ddŵr Lliw Isaf, lle gallwch fwynhau golygfeydd hyfryd o Ddyffryn Lliw. 

Cwblhawyd yr argae sy’n dal Cronfa Ddŵr Lliw Isaf ym 1867. Fodd bynnag, nid oedd yn gwbl ddwrglos pan gafodd ei chwblhau, sefyllfa a gywirwyd ym 1979 pan gafodd ei hailadeiladu – 112 o flynyddoedd ar ôl iddi gael ei hadeiladu’n gyntaf.

Roedd y gronfa’n cyflenwi dŵr i Abertawe’n wreiddiol, ond heddiw, ar ôl iddo gael ei drin yng Ngwaith Dŵr Felindre, caiff y dŵr ei bwmpio ar draws pob ran o dde Cymru.

Cloddiwyd am lo yn yr ardal slawer dydd ac mae’r llwybr yn mynd heibio un o’r adeiladau yng Nglofa Felindre, sydd heb ei ddefnyddio ers dros gant o flynyddoedd. 

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Pellter: 3 milltir (4.8km).
Amser: 1.5-3 awr.
Math o daith gerdded: Hawdd. 
Byddwch yn barod: Gwisgwch esgidiau addas.
Gwybodaeth am ddiogelwch: Cadwch lygad am y grisiau. Ceir llwybr troed cul â chwymp serth.
Gwybodaeth ddefnyddiol: Mae’r llwybr yn cynnwys tir anwastad: arwynebau caled, cadarn a llyfn. Parcio ar gael ym maes parcio Cronfa Ddŵr Lliw. Ar agor tan 6.00 yn y prynhawn. Lluniaeth a thoiledau cyhoeddus - ar gael ar ddechrau’r llwybr.  Gwasanaeth cludfwyd un unig ar hyn o bryd.

A winding foot path in a valley covered with greenery.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk

Dolenni ychwanegol

Swansea Bay without a car
Traveline Cymru

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.