Taith fer Pontarddulais
Cyrraedd
Gallwch deithio ar reilffordd Lein Calon Cymru, rheilffordd wledig ysblennydd 121 milltir rhwng Abertawe a'r Amwythig, a stopio ym Mhontarddulais, tref fach Gymreig sy'n llawn hanes.
Teithio ar drên i orsaf Pontarddulais: Agorwyd yr orsaf reilffordd hanesyddol ym 1839 ac mae'n gartref i'r twnnel rheilffordd hynaf sydd wedi goroesi yng Nghymru.
Teithio ar y bws: Ewch ar fws X13A First Cymru (bydd y daith yn para tua 40-50 munud) neu fws 16 o ganol dinas Abertawe i Bontarddulais (bydd y daith yn para tua 1 awr 15 munud).
Wyddech chi?
Enw Cymraeg yw Pontarddulais ac fe'i cyfieithir yn gyffredin fel ‘pont dros afon Dulais’. Ystyr 'Dulais' yw nant ddu, oherwydd cwrs yr afon sy'n cynnwys llawer o lo, yn ôl pob tebyg. Rhoddodd y bont hefyd lysenw 'Y Bont' i'r dref.
Taith Gerdded Treftadaeth Pontarddulais
· Darganfyddwch hanes cyfoethog y dref gyda thaith gerdded hunanarweiniedig.
· Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys adeiladau ac eglwysi hanesyddol (safle mynwent ac Eglwys Teilo Sant a adeiladwyd yn y 7fed ganrif), fel traphont rheilffordd 11 bwa sydd i'w gweld o'r fynwent, a straeon o orffennol diwydiannol a diwylliannol Pontarddulais.
· Gallwch weld y cerrig coffa a godwyd i nodi Terfysgoedd Beca ar safle terfysg tollborth Bolgoed ar 6 Medi 1843.
Os oes gennych amser i archwilio'r daith gerdded treftadaeth, gellir dod o hyd i'r manylion yma:- Llwybr Cerdded Treftadaeth Pontarddulais
Ymhellach i ffwrdd mae taith gylchol 7.5 milltir (12.1 km) sy'n dechrau ac yn dod i ben yng ngorsaf drenau Pontarddulais, ac yn mynd drwy dref Pontarddulais ac yna ar draws tir comin prydferth, heb ei ddifetha, gyda golygfeydd syfrdanol ar draws Moryd Llwchwr - gellir dod o hyd i’r manylion yma:- Taith Gerdded Graig Fawr - Abertawe
Archwiliwch siopau a chaffis lleol
Ar ôl eich taith gerdded, archwiliwch yr hyn y mae gan Bontarddulais i'w gynnig a darganfyddwch gynnyrch lleol wedi'i goginio'n ffres, byrbrydau a phrydau bach. Galwch heibio Sullivan's Tea and Coffee Co am frecwast, brecinio, cinio neu de prynhawn!
Mae rhai lleoliadau'n croesawu cŵn.
Gallwch hefyd ddod o hyd i anrhegion artisan, cynnyrch fferm lleol, mêl a chyffeithiau wrth i chi gerdded ar hyd St Teilo Street.
Peidiwch â cholli...
Marchnad y Bont - Pontarddulais! Cynhelir y farchnad stryd gyffrous ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis (mis Mawrth i fis Tachwedd). I gyd-fynd â Gorymdaith y Nadolig Cyngor Tref Pontarddulais, cynhelir marchnad y Nadolig ar ddydd Gwener cyntaf mis Rhagfyr.
Ewch i Barc Coed Bach am brynhawn hamddenol
· Man gwyrdd hardd sy'n berffaith i deuluoedd.
· Ewch am dro, gadewch i'r plant chwarae neu ymlaciwch gyda natur.
· Beth am archebu cwrt tennis ac ymarfer yno?
· Cymerwch gip ar y llwybr ffitrwydd neu cerddwch drwy'r coetir hardd sy'n cynnwys 47 rhywogaeth wahanol o goed.
· Lle gwych i dynnu lluniau, cael picnic a mwynhau'r awyr iach. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Parc Coed Bach - Abertawe