Rhosili i Ben-maen - Llwybr Gŵyr (y rhan ddeheuol)
Dewch i ddarganfod penrhyn trawiadol Gŵyr wrth i chi gerdded o Rosili i Benmaen ar hyd rhan ddeheuol Llwybr Gŵyr. Mae’r daith gerdded o Rosili i Benmaen yn un gymharol hir ond gwerth chweil, sy’n fwyaf addas i gerddwyr profiadol.
Crynodeb o’r Daith Gerdded
Pellter: 8 milltir (13km).
Amser: 4-5 awr.
Math o daith gerdded: Llafurus. Unionlin.
Byddwch yn barod: Mae’n ddoeth gwisgo esgidiau neu fwts cryf a dillad dwrglos.
Gwybodaeth am ddiogelwch: Byddwch yn ofalus o draffig ar y ffyrdd. Taith gerdded ar hyd caeau, traciau fferm, coetir a gweundir a grisiau i’w dringo.
Gwybodaeth ddefnyddiol: Cludiant Cyhoeddus. Mannau parcio ceirar gael yn Rhosili (ffi barcio breifat). Lluniaeth ar gael yng ngwesty’r Worm’s Head Hotel a’r siop (ger y maes parcio), yr orsaf betrol (ar y ffordd), gwesty’r King Arthur Hotel yn Reynoldston. Toiledau cyhoeddus ar gael ar waelod maes parcio Rhosili, gwesty’r Worm’s Head Hotel, yr orsaf betrol a gwesty’r King Arthur Hotel.
Dechrau: Hen Wylfa Gwylwyr y Glannau gyferbyn â Phen Pyrod (canolfan wybodaeth CCGC sydd yma’n awr).
Diwedd: Penmaen.
Y daith gerdded: Llwybr Gŵyr
Uchafbwyntiau
- Pentir trawiadol Pen Pyrod ar ddechrau’r daith gerdded
- Golygfeydd hardd o dde Gŵyr gan gynnwys Bae Oxwich a Bae y Tri Chlogwyn, pentrefi bach, fflora a ffawna brodorol wrth i chi gerdded ar draws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk
Dolenni ychwanegol
Pen-maen i Dregŵyr - Llwybr Gŵyr (y rhan ganol)
Dewch i ddarganfod ardal wledig Gŵyr wrth i chi gerdded o Benmaen i Dre-gŵyr ar hyd…
Tregŵyr i Benlle'r Castell – Llwybr Gŵyr (y rhan ogleddol)
Dyma’r rhan hiraf o Lwybr Gŵyr. Mae’n daith gerdded gymharol hir…
Llwybr Gŵyr
Mae Llwybr Gŵyr a agorwyd gan Dywysog Cymru ym 1998, yn rhedeg 35 milltir (56km) o…
Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...
Lles
Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…
Addas i Gŵn
Does dim rhaid i'ch anifail anwes aros gartref pan fyddwch yn archwilio Bae Abertawe oherwydd…
Pethau i’w Dwneud yn yr Awyr Agored
Rydym yn cynnig mwy na syrffio, padlo bwrdd ar eich traed, arfordiro a chaiacio yn unig ym Mae…
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Llwybrau Cerdded
Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.