Anrhegion drwy'r post
Ychydig o Fae Abertawe wedi'i ddosbarthu'n uniongyrchol i'ch anwyliaid!
O gelf, gemwaith a cherameg lleol wedi’u hysbrydoli gan ein morweddau hyfryd i fasgedi bwyd yn llawn danteithion o benrhyn Gŵyr ar gyfer gwledd i’w chofio. Dewiswch o’r rhestr isod a chi fydd ffefryn pawb eleni!
Anrhegion amrywiol
Sŵ Trofannol Plantasia
Mabwysiadwch anifail i chi eich hun neu fel rhodd wych! Dewiswch o Rainbow y macaw, Clyde y peithon, ein swricatiaid syfrdanol, a mwy! Mae pob pecyn yn cynnwys tystysgrif, tegan meddal, ffeithlen anifeiliaid, cerdyn post, dau ymweliad am ddim, a disgownt gwerth 10% yn y caffi – a hyn oll mewn cês cario disglair. Ar ben hynny, rhoddir eich enw ar gorlan yr anifail! Dosbarthu yn y DU yn unig. Rhagor o wybodaeth.
The SUP Hut
Dyma siop chwaraeon dŵr sy'n gwerthu nwyddau syrffio, padlfyrddio ar eich traed, adain wynt, hydroffoilau a sglefrfyrddio. Cynigir gwersi chwaraeon dŵr hefyd. Rhagor o wybodaeth.
King Arthur Hotel
Dyma anrheg wych i rywun sy'n dwlu ar y King Arthur Hotel neu sydd am gael rhywbeth arbennig i'w atgoffa am ei ymweliad â phenrhyn Gŵyr – crysau T a hwdis wedi'u dylunio gan yr artist lleol Arno Art. Rhagor o wybodaeth.
Rhoddion bwyd a diod
Gower Cottage Brownies
Brownis arobryn mewn blwch hardd, ynghyd â neges bersonol a dosbarthu am ddim ledled y DU. “Y brownis gorau rydyn ni wedi eu blasu erioed …” BBC Good Food Magazine.
King Arthur Hotel
Cyflwynwch King Arthur Gin fel anrheg! Wedi ei ysbrydoli gan chwedloniaeth y Brenin Arthur, mae ein jin botanegol Cymreig premiwm wedi'i greu gan ddefnyddio'r cynhwysion gorau o dirwedd arw penrhyn Gŵyr. Ar gael mewn set anrheg bremiwm safonol, binc neu fach. Rhagor o wybodaeth.
King’s Head Inn
Basgedi Blas ar Gymru llawn bwyd a diod Cymreig poblogaidd megis Tregroes Waffles, fodca arobryn Penderyn a chwrw Gower Gold. Neu hwdi cynnes The King's Head - sy'n gwneud y tro i'r dim os ydych yn mynd am dro ar y traeth yn y gwynt.
Jin Gŵyr
Rhowch Jin Gŵyr fel anrheg – gallwch ddewis o jin gwasael, jin eirin neu jin traddodiadol ein Distiller’s Cut. Cynhyrchwyd y cwbl ar benrhyn Gŵyr gyda deunydd botanegol o ffynonellau lleol.
Anrhegion celf a chrefft
The Lovespoon Gallery
Cyflwynwch ran fach o ramant Cymru ar ffurf llwy garu unigryw hardd wedi'i cherfio â llaw. Dyma'r arbenigwyr gwreiddiol sy'n cynnig y casgliad mwyaf o ddyluniadau ar gyfer llwyau caru gan gerfwyr gorau Cymru.
Gower Gallery
Dewiswch o ddetholiad o anrhegion sy'n amrywio o waith celf, cerfluniau, gemwaith, cardiau a mwy. Mae llawer o'r gwaith wedi'i ysbrydoli gan forlin hardd Gŵyr, gan gynnwys paentiadau o olygfeydd eiconig megis Bae Langland, Bae y Tri Chlogwyn, Bae Caswell, Bae Oxwich a Bae Rhosili.
Gill Clement Jewellery
Rhowch anrheg hardd i ymhyfrydu ynddi am byth – gemwaith wedi'i greu â llaw yn y Mwmbwls. Dewiswch o'n casgliad ar-lein a bydd rhywun wrth ei fodd!
North Wind Studio and Gallery
Oriel Gelf Glynn Vivian
Mae amrywiaeth o anrhegion a llawer o'n delweddau ar gael i'w prynu fel printiau celf hardd o safon. Rhagor o wybodaeth.
Oriel Mission
Profiad wedi'i guradu gyda detholiad gwych o gardiau, printiau ac anrhegion unigryw – mae rhywbeth ar gyfer pob achlysur. Gwneir yr holl ddarnau gan grefftwyr a dylunwyr talentog. Pan fyddwch yn prynu rhywbeth gennym, byddwch hefyd yn helpu i gefnogi pobl go iawn. Mwy o wybodaeth.
Pa-Pa Jewellery
Gemwaith wedi’i ysbrydoli gan y môr a’r traeth a rhoddion arfordirol wedi'u dylunio a'u saernïo gan ŵr a gwraig sy'n ofaint yng ngweithdy Pa-pa. Mae morlin, bywyd môr a chefn gwlad bythgofiadwy penrhyn Gŵyr wedi dylanwadu ar ddyluniad y casgliad hwn o emwaith, paentiadau, printiau a dodrefn.
Darganfod rhagor
Talebau Anrhegion
Rhowch anrheg y gallwch ei mwynhau yn y dyfodol...
Profiadau fel Anrhegion
Gallwch drefnu Profiad Anrheg penodol i rywun. Gallwch fod yn greadigol iawn!
Ysbrydoliaeth
Ydych chi'n trefnu eich gwyliau nesaf? Does dim angen edrych ymhellach am lwybrau cerdded gwych, bywyd gwyllt a chwaraeon dŵr yn ogystal â hufen iâ, bwyd y môr a golygfeydd o'r môr! Os ydych…
Gwyliau Rhamantus
Mwynhewch daith gerdded ar hyd un o'n traethau diarffordd, pryd o fwyd hynod flasus yng ngolau cannwyll yn un o'n bwytai, noson yn syllu ar y sêr o dan flanced neu benwythnos cyffrous yn cymryd rhan mewn sesiwn…
Siopa
Mae Abertawe'n lle gwych i fwynhau ychydig o siopa.