Hanner Tymor

Ydych chi'n chwilio am ffyrdd o ddifyrru'r rhai bach drwy gydol y gwyliau hanner tymor? Mae Croeso Bae Abertawe yma i ddangos yr holl ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrofiadau sydd ar gael i chi ar draws canol y ddinas a'r cyffiniau.  

Yn Abertawe, mae digon o weithgareddau addas i deuluoedd wedi'u trefnu drwy gydol y gwyliau hanner tymor. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys popeth o weithdai crefftau, cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd, partïon dawnsio, clybiau plant a llawer mwy. Mae'r ddinas hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau a phrofiadau, am ddim ac am dâl, sy'n golygu bod rhywbeth at ddant pawb.  

Dyma rai o'n gweithgareddau a'n lleoedd gorau i deuluoedd roi cynnig arnynt yn ystod y gwyliau hanner tymor:  

Beth am ymweld ag un o'n llyfrgelloedd niferus? Mae 17 ohonynt ar gael ledled y ddinas, felly mae'n siŵr bod un yn agos atoch chi!  

Beth am gael blas ar y gorffennol a dysgu am hanes Abertawe yn Amgueddfa Abertawe neu ddarganfod mwy am ein ‘ugly lovely town’ yng Nghanolfan Dylan Thomas?  

Mae Atyniadau Awyr Agored Abertawe'n cynnig y cyfle perffaith i archwilio promenâd Abertawe, gyda gweithgareddau'n cwmpasu'r holl bellter rhwng Llyn Cychod Singleton a Gerddi Southend yn y Mwmbwls.  

Bydd traethau hyfryd Abertawe'n rhoi digon o leoedd i chi drefnu picnic a gwylio'r byd o'ch cwmpas.  

Nid oes rhaid i chi wario llawer o arian chwaith – cymerwch gip ar ein hadran Pethau i'w Gwneud Am Ddim i gael hyd yn oed mwy o syniadau.  

Cymerwch gip ar y digwyddiadau gwych sy'n cael eu cynnal yn ystod hanner tymor

Joio Bae Abertawe yr hanner tymor hwn

Atyniadau

Dewch i ddysgu am dreftadaeth forol y ddinas – mae Abertawe’n gartref i’r  amgueddfa hynaf a’r amgueddfa fwyaf cyfoes yng Nghymru, ac mae mynediad am ddim i'r ddwy! Os ydych chi'n hoff o gelf…

Blog

Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf am bethau i'w gwneud a digwyddiadau ym Mae Abertawe? Darllenwch ein blog! 

Gweithgareddau

Mae lleoliad Bae Abertawe a Gŵyr yn golygu bod gennym lwyth o opsiynau gweithgareddau ar gael. Gallwch archwilio’r arfordir a chefn gwlad ar droed, ar gefn beic neu drwy farchogaeth, ac mae pob math o chwaraeon dŵr ar gael!

Pethau i'w Gwneud Dan Do

Dydyn ni ddim yn gallu addo tywydd da ond gallwn addo hwyl a sbri! Os ydych yn chwilio am weithgareddau dan do ym Mae Abertawe, gallwch ddod o hyd iddyn nhw yma.

Yr hyn sydd ar ddod cyn bo hir

Amgueddfa Gyntaf Cymru Arddangosfeydd

Sefydlwyd Sefydliad Brenhinol De Cymru neu RISW ym 1835. Agorodd yr aelodau sefydlu amgueddfa fawr…

Mar 22

Hanes Naturiol Iawn Arddangosfeydd

Mae gan bobl ddiddordeb diamheuol mewn natur. Dangosir hyn yn glir drwy amrediad ein casgliad hanes…

Mar 22

Insects at Oriel Science

March's Topic at Oriel Science is Insects! This month, dive into the fascinating world of…

Mar 22

Llwybrau Anifeiliaid Dylan

Ysgrifennodd Dylan am lawer o wahanol anifeiliaid ac adar yn ei farddoniaeth! Allwch chi ddod o hyd…

Mar 22

The Gruffalo

Join Mouse on a daring adventure through the deep, dark wood in Tall Stories' magical, musical…

Mar 25