Traeth Bae Llangynydd
Mae traeth Llangynydd ar ymyl gorllewinol Penrhyn Gŵyr, mae’n boblogaidd iawn ymhlith syrffwyr.
Sut i gyrraedd yno
Gellir cyrraedd pentref Llangynydd mewn car ac ar gludiant cyhoeddus, ac mae’r pentref tua 1/2 milltir o’r traeth (SA3 1JD).
Gall y pellter rhwng y maes parcio a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.
Cyfleusterau
Maes Parcio: Mae angen cerdded rhywfaint o’r maes parcio yng Ngwersyllfa Hillend (tua 200m) er mwyn cyrraedd y traeth. Mae lle parcio ar gael hefyd ym mharc carafanau Fferm Broughton. Taliadau’n berthnasol.
Toiledau: Yn y gwersylloedd cyfagos.
Lluniaeth: Mae lluniaeth ar gael ond mae’n rhaid cerdded rhywfaint i’w gyrraedd (tua 200m). Gall y pellter rhwng y lluniaeth a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.
Cludiant cyhoeddus: Oes, i draeth Llangynydd. Mae’r safle bws a’r traeth ychydig bellter i ffwrdd a gall gynnwys tir anodd neu arw.
Cŵn: Caniateir cŵn drwy gydol y flwyddyn.
Mynediad i gadeiriau olwyn: Na.
Achubwyr Bywydau: Na.
Mae’r traethau dan berchnogaeth breifat yn rhannol a than berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhannol.

Arhoswch yn ddiogel!
Os ydych yn syrffio yn Llangynydd, gwyliwch rhag llongddrylliadau pan fo’r llanw’n isel.
Ble mae’ch lle hapus?
Gwrandewch ar stori James sy’n esbonio pam mai Llangynnydd, Gŵyr yw ei ‘Le hapus’! Rydym yn sicrhau y gwelwch chi olygfeydd gwych o Rosili a Phen Pyrod, y tonnau gorau a thad a mab yn rhannu eu cariad at syrffio!
Archwiliwch ragor
Traethau
Mae ein harweiniad i draethau ym Mae Abertawe'n un cynhwysfawr i'r holl draethau hyfryd sydd…
Llwybr Arfordir Gŵyr
Mae Llwybr Arfordir Gŵyr yn cynnwys holl amrywiaeth ein harfordir hyfryd.
Pethau i’w Dwneud yn yr Awyr Agored
Rydym yn cynnig mwy na syrffio, padlo bwrdd ar eich traed, arfordiro a chaiacio yn unig ym Mae…
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Bwyd a Diod
Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch…