Placiau Glas Abertawe

Os ydych yn ceisio darganfod rhagor am rai o bobl enwocaf Abertawe, cadwch lygad am Blaciau Glas Abertawe y tro nesaf rydych yn archwilio'r ddinas.  

Maent wedi'u gosod i dalu teyrnged i rai o ffigurau a lleoliadau pwysicaf Abertawe a'u cofio ac mae dros 20 ohonynt i'w darganfod ar draws y ddinas.  

O gerddorion nodedig fel Pete Ham i eiconau llenyddol fel Kingsley Amis a Vernon Watkins i leoliadau hanesyddol fel Parc Cwmdoncyn, Maes Rygbi a Chriced San Helen a'r Vetch.  

Gallwch ddarganfod pob un o Blaciau Glas Abertawe ar-lein.

Hanes a Threftadaeth

Mae lleoliadau Bae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr yn llawn hanes, o gestyll hynafol, môr-ladron a smyglwyr i'w hanes diwydiannol cyfoethog gyda gwaith copr Abertawe a threftadaeth ddiwylliannol eiconau llenyddol fel Dylan Thomas.