Taith Fer Uplands

Cyrraedd

Ewch ar fws o Orsaf Fysus Abertawe i Uplands. Bydd gwasanaeth rhif 20 yn eich cludo i ganol Uplands o fewn 10 munud.

Wyddech chi?

Ystyr Uplands yn Gymraeg yw'r tiroedd uchel. Roedd yr ardal yn wledig yn wreiddiol, gydag ychydig o dai gwasgaredig fel Ffynone a Bryn-y-môr (fel a nodwyd ym Map Degwm 1843), ac mae gan gynllun ffyrdd presennol Walter Road, Uplands Crescent a Glanmor Road wreiddiau mewn ffordd o ganol y 19eg ganrif a oedd yn rhedeg drwy'r ardal.

 

Y Celfyddydau a Diwylliant

Dychmygwch gymdeithasu, bwyta cinio a threulio'r noson yn nhŷ enwocaf maes llenyddiaeth Cymru - y tŷ lle ganwyd un o feirdd ac awduron mwyaf poblogaidd yr 20fed ganrif, Dylan Thomas, a lle bu'n byw am 23 o flynyddoedd cyntaf ei fywyd, a lle dechreuodd ysgrifennu!

Mae man geni a chartref Dylan yn ystod ei blentyndod, sef 5 Cwmdonkin Drive yn Uplands, wedi'i adfer yn llawn fel yr oedd ym 1914 pan gafodd ei brynu fel tŷ newydd gan deulu Dylan. Gallwch archebu eich taith, cinio, cinio Edwardaidd, te prynhawn neu seibiant byr yma.

Ewch am dro byr i Barc Cwmdoncyn gerllaw (rhestredig Gradd II), lle'r oedd Dylan yn chwarae pan oedd yn blentyn. Ysgrifennodd Dylan lawer o ddisgrifiadau hoffus am Barc Cwmdoncyn, megis 'this world within the world of the sea town' yn ei hunangofiant, ac mae llawer o gyfeiriadau at Dylan ar hyd y parc, fel cerflun enfawr o bensil a wnaed o goeden. Mae gan y parc hefyd ardal chwarae, cyrtiau tennisllwybrau cerdded ac ystafell de fach o'r enw Dylan's at Cwmdonkin, lle gallwch fwynhau paned a theisen gartref. Mae ardal eistedd fechan dan do ac mae'n gyfeillgar i gŵn hefyd felly gallwch ddod â'ch anifail anwes gyda chi!

Ydych chi'n dwlu ar gelf? Galwch heibio Tides Fine Art Gallery, oriel fasnachol fach, gyfeillgar, dan arweiniad artistiaid. Gallwch ddarganfod nwyddau seramig, celfyddyd gynhyrchiol, gemwaith, paentio, ffotograffiaeth, gwneud printiau, cerfluniau a thecstilau.

A man sitting at a desk in Dylan Thomas' Birthplace

Bwyd a diod

Mae amrywiaeth o leoedd i fwyta ac yfed yn Uplands. Yn ystod y dydd, gallwch ymlacio gyda choffi a theisen gartref, neu gallwch fynd allan am fwyd yng nghwmni ffrindiau gyda'r nos a mwynhau cerddoriaeth fyw, dawnsio ac yfed coctels a moctels! Cymerwch gip ar Bar Saint James, bar cain mewn adeilad Edwardaidd gyda chelfi art deco, BrewStone, sy'n gweini pizzas wedi'u coginio'n ffres a chwrw crefft a Frango, sy'n gweini cyw iâr sydd wedi'i goginio mewn arddull Portiwgeaidd.

 

Parciau a Gerddi

O fewn pellter cerdded i Uplands, gallwch ddod o hyd i nifer o fannau gwyrdd deniadol Bae Abertawe. Mae Parc Brynmill yn llai na 10 munud i ffwrdd ar droed a hwn oedd parc anffurfiol cyntaf Abertawe (cronfa ddŵr yn wreiddiol, a adeiladwyd ym 1837). Heddiw, mae gan y parc poblogaidd hwn faes chwarae i blant, ciosg bach sy'n gwerthu lluniaeth a llyn prydferth lle gallwch weld hwyaid ac elyrch. 

Mae Parc Singleton gerllaw hefyd, o fewn 20 munud ar droed, ac mae'n gartref i un o gasgliadau planhigion mwyaf blaenllaw Cymru, gyda borderi blodau, gardd flodau gwyllt, tri thŷ gwydr mawr a gerddi addurnol. Mae Parc Singleton hefyd yn boblogaidd iawn ymhlith  teuluoedd ac mae ganddo lyn cychod gyda pedalos, maes chwarae i blant, cwrs golff gwallgof a rhywle i gael saib a phryd i'w fwyta ym mwyty Pub on the Pond.

 

Peidiwch â cholli...

…Marchnad Uplands! Marchnad stryd fisol fywiog sy'n cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn olaf bob mis ac sy'n cynnwys masnachwyr lleol sy'n gwerthu cynnyrch o Gymru a nwyddau o waith llaw.

Dylan Thomas Statue in Cwmdonkin Park
Brownies and other desserts on sale at Uplands Market