Yr Hydref ym mae Abertawe

Wrth i'r dyddiau fynd yn fyrrach ac yn oerach, does dim byd yn well na'r hydref ym Mae Abertawe. P'un a ydych chi'n mynd am benwythnos neu am gyfnod hwy, mae digonedd o bethau i'w gweld a'u gwneud.  

Wrth i'r tymor ddechrau mynd yn oerach, gwisgwch eich dillad cynnes a threuliwch eich diwrnodau'n archwilio ein llwybrau cerdded arbennig neu'n darganfod ein mannau awyr agored, ein parciau a’n gerddi hyfryd, ac yna gallwch gynhesu gyda diod boeth yn un o'n caffis neu ein siopau coffi anhygoel.  

Os ydych chi'n mwynhau athletau neu am herio'ch hun y tymor hwn, beth am gymryd rhan yn ras 10k flynyddol Bae Abertawe Admiral? Mae'r ras yn berffaith ar gyfer rhedwyr profiadol sy'n ceisio curo'u hamser gorau neu bobl sy'n rhedeg am y tro cyntaf a rhedwyr hwyl! Gyda chyfle i fwynhau golygfeydd gwych Bae Abertawe, dyma'r ffordd berffaith o groesawu'r hydref.  

Hefyd, dyma'r amser perffaith i wylio sioe neu ddwy yng nghanol y ddinas, naill ai yn Theatr y Grand hanesyddol neu gallwch fwynhau goleuadau gwych Arena Abertawe. Ar ôl hynny, gallwch ymlacio gyda ffrindiau wrth i chi fwyta yn un o'r nifer o fwytai sydd ar gael.  

Ond cofiwch, wrth i'r nosweithiau ddechrau tywyllu ym mis Hydref, mae'r ysbrydion a'r ellyllon eisiau chwarae! Mae digon o hwyl ar gael i bobl o bob oedran bob Calan Gaeaf gyda'n digwyddiadau blynyddol Ysbrydion yn y Ddinas a Thrên Bwganod Nos Galan Gaeaf, yn ogystal â digwyddiadau bwganllyd yng Nghastell Ystumllwynarth. Ydych chi'n awyddus i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau rhyfedd yn Abertawe? Cymerwch gip ar ein hadran hanes ar gyfer gweithgarwch goruwchnaturiol...  

Cerdded

Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe yn cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy.

Digwyddiadau'r hydref na ddylech eu colli

    Digwyddiad Chwaraeon

  • Sep 14, 2025

10k Bae Abertawe Admiral

Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn dychwelyd ar gyfer ei 43ain ras ar 15 Medi 2024, hyfryd Abertawe ac…

Sep 14

    Digwyddiad Tymhorol

  • Nov 5, 2025

Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe

Gwybodaeth am docynnau Gellir prynu tocynnau o hyd ar gyfer arddangosfa tân gwyllt heno. Ewch…

Nov 05

Rhagor o ffyrdd o fwynhau Abertawe'r hydref hwn

Digwyddiadau Tymhorol

Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn byddwch yn ymweld â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, mae rhaglen ddigwyddiadau ffyniannus, golygfeydd gwych i'w harchwilio a bwydydd lleol blasus.

Atyniadau

Dewch i ddysgu am dreftadaeth forol y ddinas – mae Abertawe’n gartref i’r  amgueddfa hynaf a’r amgueddfa fwyaf cyfoes yng Nghymru, ac mae mynediad am ddim i'r ddwy! Os ydych chi'n hoff o gelf…

Bwyd a Diod

Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren…

Blog

Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf am bethau i'w gwneud a digwyddiadau ym Mae Abertawe? Darllenwch ein blog! 

Gweithgareddau

Mae lleoliad Bae Abertawe a Gŵyr yn golygu bod gennym lwyth o opsiynau gweithgareddau ar gael. Gallwch archwilio’r arfordir a chefn gwlad ar droed, ar gefn beic neu drwy farchogaeth, ac mae pob math o chwaraeon dŵr ar gael!