Llwybr Cerdded Bae y Tri Chlogwyn

Mae’r daith gerdded braf hon drwy ddyffryn coediog, heibio i fyncer yr Ail Ryfel Byd, yn cynnwys golygfeydd o Gastell Pennard cyn cyrraedd traeth euraidd y Tri Chlogwyn.

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Pellter: 1.7 milltir (2.7 km).
Amser: 1.5-3 awr.
Math o daith gerdded: Cymedrol – Egnïol.
Byddwch yn barod: Mae’n ddoeth gwisgo esgidiau neu fwts cryf. 
Gwybodaeth am Ddiogelwch: Os ydych yn mynd ar y traeth, dilynwch yr hysbysiadau diogelwch, fel arall, trowch o gwmpas ac ewch nôl.  Nid yw'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn oherwydd wynebau anwastad a thrac tywodlyd.
Gwybodaeth Ddefnyddiol: Codir tâl am barcio - caffi Shepherd's. Does dim meinciau na thoiledau ar y llwybr hwn.
Man dechrau a gorffen: Maes parcio y tu allan i Shepherd’s, Parkmill.

Dechrau: Dechreuwch yn y maes parcio y tu allan i Shepherd’s, drws nesaf i Ganolfan Treftadaeth Gŵyr.

Croeswch y ffordd i fynd ar y llwybr troed wrth ymyl bwyty Maes yr Haf (arwydd Bae y Tri Chlogwyn).

Cerddwch ar hyd y llwybr troed sy'n croesi'r bont cyn anelu am y dde, lle mae'r llwybr yn parhau drwy ardal goediog.

(mae'r llwybr yn anwastad a gall fod yn llithrig, gan ddibynnu ar y tywydd)

Wrth adael yr ardal goediog, cerddwch ar hyd trac tywodlyd, gan gadw i'r chwith.

Parhewch i gerdded, gan fynd heibio'r byncer o gyfnod yr Ail Ryfel Byd, nes i chi gyrraedd llwybr estyllod sy'n rhedeg

ar bwys nant. Fe welwch gastell Pennard ar y chwith ar flaen y cwm.

Gorffen: Dilynwch y llwybr estyllod, gan gerdded ar hyd trac tywodlyd nes eich bod yn cyrraedd traeth - rydych bellach wedi cerdded 1.4km / 0.8 milltir.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk

Dolenni ychwanegol

Swansea Bay without a car
Traveline Cymru

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.