Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls

Mae Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls yn deyrnged barhaol i Reilffordd y Mwmbwls hanesyddol. Mae'n diogelu etifeddiaeth y rheilffordd drwy lwybr cerdded dynodedig sy'n dilyn hen lwybr y rheilffordd.  

Ar hyd y llwybr 5.5 milltir o hyd mae 11 o arwyddion gorsaf haearn bwrw replica yn nodi lleoliadau allweddol.  Mae pob arwydd yn cynnwys côd QR y gellir ei sganio â ffôn clyfar er mwyn gwylio ffilmiau archif, gweld ffotograffau hanesyddol, gweld sut y byddai'r tramiau coch enwog a gorsafoedd penodol wedi edrych gan ddefnyddio realiti estynedig, yn ogystal â gwrando ar sylwebaeth ac atgofion personol o'r rheilffordd.  

Mae byrddau gwybodaeth, posteri a murluniau ychwanegol yn rhoi mewnwelediad pellach i fannau allweddol ar hyd y llwybr.  

Mae'r llwybr yn dechrau yn Rutland Street, y tu allan i LC Abertawe, a gellir ei ddilyn ar droed yr holl ffordd i Bier y Mwmbwls.  

Mumbles Railway Trail Rutland StMumbles Railway Trail Argyle St
Mumbles Railway Trail St HelensMumbles Railway Trail Blackpill

Mumbles Railway Map

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk

Dolenni ychwanegol

Swansea Bay without a car
Traveline Cymru
Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.