Pethau Addas i Gŵn
Mae Abertawe'n llawn pethau sy'n addas i gŵn, felly does dim rhaid i'ch anifail anwes golli allan ar yr hwyl!
Yn ogystal â nifer o atyniadau a digwyddiadau sy'n addas i gŵn, mae gan Fae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr dros 50 o barciau i chi eu harchwilio, yn ogystal â morlin rhagorol Gŵyr - cymerwch gip ar ein llwybrau cerdded ac ewch i'w harchwilio. Rydym hefyd yn ffodus bod gennym draethau sy'n addas i gŵn yn ystod adegau penodol o'r flwyddyn. Mae llawer o bethau i gŵn eu gwneud.
Cofiwch gael cip ar ein hadran bwyd a diod sy'n addas i gŵn i ddod o hyd i fwyty y gallwch ymlacio ynddo ar ôl diwrnod prysur, yn ogystal â'n hadran llety sy'n addas i gŵn i sicrhau eich bod chi a'ch ci yn dod o hyd i rywle i ymlacio ar ddiwedd y dydd.
Traethau sy’n Addas i Gŵn
Ceir llawer o draethau sy’n croesawu cŵn. Y gorau oll (yn ôl TripAdvisor), yw Bae Rhosili sy’n caniatáu cŵn drwy gydol y flwyddyn.
Caniatâd i gŵn â chyfyngiadau
Mae cŵn yn cael mynd ar bob un o’r traethau hyn mewn rhyw ffordd – ond cofiwch efallai fydd cyfyngiadau mynediad neu efallai fydd cŵn yn cael eu gwahardd ar rai adegau’r flwyddyn. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y tudalennau traethau unigol.
Caniateir cŵn drwy gydol y flwyddyn
Ie, pryd bynnag rydych chi am fynd yno. Dewch â’ch ffrind blewog i’r traethau hyn unrhyw bryd mewn unrhyw dywydd – fflip fflopiau neu esgidiau glaw.
Crynodeb
Dyma restr o’r holl dudalennau traethau i gŵn mewn un lle – mae rhai’n caniatáu cŵn drwy gydol y flwyddyn ac mae gan rai eraill gyfyngiadau mynediad neu dymhorol. Gwiriwch y tudalennau unigol am fwy o wybodaeth.
Bant am dro!
Os nad oedd y traethau’n ddigon, bydd eich ci’n cael amser bendigedig yn ein parciau a’n mannau awyr agored. Maent yn cynnwys Parc Singleton 200 erw, y gerddi addurnol yng Nghlun, rhan olygfaol prom Abertawe a pharciau niferus eraill, llwybrau arfordirol a llwybrau ger afonydd.
Mannau awyr agored
Mae rhestr gynhwysfawr o holl barciau, gwarchodfeydd natur a mannau awyr agored Bae Abertawe gyda mapiau a chyfleusterau ar gael yma.
Dod o hyd i lwybr cerdded
Mae llwybrau amrywiol ar gael, o drotian ar hyd llwybr yr arfordir i frasgamu drwy goetiroedd a thiroedd comin.
Y Côd Cerdded Cŵn
Mae da byw yn crwydro o gwmpas llawer o ardal Gŵyr ac mae llawer o lwybrau cerdded yn croesi tir fferm. Mae’n rhaid i chi gadw’ch ci ar dennyn yn y sefyllfaoedd hyn, felly darllenwch y Côd Cerdded Cŵn.
Codwch y baw! Mae biniau gwastraff cŵn ar gael ar hyd yr holl lwybrau cerdded.
Ydych chi'n chwilio am ragor o syniadau sy'n addas i gŵn?
Llety Addas i Gŵn
Ydych chi'n trefnu taith gyda'ch ci? Isod mae amrywiaeth o lety sy'n addas i gŵn, o westai i lety gwely a brecwast a bythynnod clyd.
Bwytai a Thafarnau Addas i Gŵn
Yn ffodus, mae gan Abertawe ddetholiad o fariau, tafarnau a chaffis sy'n addas i gŵn, felly gall eich ci adfer ei egni hefyd.