Llwybr Dylan Thomas yn yr Ardal Forol

Mwynhewch daith gerdded ar thema Dylan Thomas drwy ran o’r Ardal Forol. Hyd y daith gerdded wastad hon yw tua 1 cilometr, a gall gymryd hyd at 20-25 munud.

Ganed Dylan Thomas yn Abertawe, a threuliodd 20 mlynedd gyntaf ei fywyd yn y ddinas. Dychwelodd i Abertawe’n aml yn ystod y blynyddoedd dilynol, a pharhaodd i ysgrifennu am ei dref – ‘beautiful and drab town’ – a’i phobl.

Bydd geiriau Dylan yn eich arwain wrth i chi ddilyn y llwybr byr hwn a darganfod Marina Abertawe drwy ei lygaid ef. Cewch weld rhywfaint o hanes a threftadaeth ddiwydiannol yr ardal yn y fan a’r lle, ac effeithiau parhaol y Blitz ar dref Dylan, tref yr oedd yn ei disgrifio fel ‘marble-town, city of laughter, little Dublin’ (llythyr at Vernon Watkins).

Llwybr

• Mae’r daith yn dechrau y tu allan i Ganolfan Dylan Thomas.

• Cerddwch ar hyd East Burrows Road. Trowch i’r dde ychydig ar ôl Clwb Hwylio Abertawe a cherddwch tuag at dafarn y Pumphouse.

• Croeswch y bont gerddwyr i gyrraedd Capten Cat.

• Dychwelwch at y llwybr a cherddwch ar draws y bont gerddwyr ac ewch heibio tafarn y Pumphouse ac Abernethy Quay i gyrraedd Sgwâr Dylan Thomas a’i gerflun.

• Cerddwch at ymyl y sgwâr a Theatr Dylan Thomas, cartref Theatr Fach Abertawe.

• Cerddwch ar hyd Gloucester Place tuag at Westy’r Queens.

• Trowch i’r chwith a rownd y gornel fe welwch Amgueddfa Abertawe.

• Trowch i Adelaide Street a cherddwch heibio hen swyddfeydd The Evening Post.

• Trowch i’r dde ar Somerset Place a byddwch yn gweld Canolfan Dylan Thomas, sef diwedd eich

Captain Cat Statue

Dewch i ddarganfod… Dylan Thomas yn yr Ardal Forol

Trawsgrifiadau

Gallwch lawrlwytho copi PDF o’r llwybr sy’n cynnwys trawsgrifiad o’r daith sain yma.

Teithiau Tywys Dylan Thomas NEWYDD

Dewch i gerdded yn ôl troed Dylan ac archwilio ei wlad! Ewch i’r adran lawrlwythiadau ar dudalen Man Geni a Chartref Teuluol Dylan Thomas i gael rhagor o wybodaeth, neu cliciwch ar y ddolen hon!