Taith Fer y Tri Chlogwyn
Antur Ddringo ym Mae’r Tri Chlogwyn (arhosiad 1 noson)
Cadwch eich lle am arhosiad yn Nhŷ Bynciau Hardingsdown, sy’n cynnig llety cyfforddus a fforddiadwy i unigolion, teuluoedd a grwpiau ar fferm organig weithredol yng nghanol penrhyn Gŵyr.
10am:Dewch i Siop Goffi Bae’r Tri Chlogwyn i gael cappuccino (neu baned!) a theisen gartref flasus.
Treuliwch y diwrnod yn dringo creigiau ac yn abseilio yn lleoliad arobryn Bae’r Tri Chlogwyn gyda’r tîm yn Gower Adventures. Golygfeydd trawiadol a hwyl benigamp. Cofiwch ddod â’ch potel o ddŵr a’ch pecyn cinio!
30pm: Dewch yn ôl am hufen iâ yn Siop Goffi Bae’r Tri Chlogwyn
Dychwelwch i Dŷ Bynciau Hardingsdown i gael cawod a newid eich dillad.
Gallwch fynd am dro am 20 munud gyda’r hwyr heibio’r bryngaerydd o Oes yr Haearn i’r Kings Head inn at Llangennith, yn Llangynydd, sy’n dafarn pedair seren o’r 17eg ganrif lle gallwch fwynhau pryd blasus gyda’r hwyr (gallwch ddewis o lawer o brydau cartref wedi’u gwneud o gynnyrch Cymreig!).
Ewch yn ôl i Dŷ Bynciau Hardingsdown am arhosiad dros nos.
Rhannwch eich profiadau a’ch lluniau o’ch gwyliau â ni, dilynwch ni ar Facebook a Twitter a chofiwch ddefnyddio’r hashnod: #HwylBaeAbertawe. Mwynhewch!
Cymerwch gip ar ein teithiau byr eraill
Teithiau Byr Diwylliannol Abertawe
Antur Ddiwylliannol yn Abertawe
Taith Fer y Mwmbwls
Ymwelwch phentref cartrefol ond cosmopolitaidd y Mwmbwls. Yn llawn cymeriad lleol a swyn, mae’r Mwmbwls yn gartref i grefftau a wnaed â llaw, bwtigau moethus a hufen iâ gorau’r…
Taith Fer Oxwich
Antur Forol Oxwich: Dewch i reidio, bwyta a phadlo bwrdd ar eich traed!
Antur Tri Diwrnod Hwyl Bae Abertawe
Antur Tri Diwrnod ym Mae Abertawe.
Taith Fer Abertawe Wledig
Darganfyddwch Abertawe Wledig yn ystod Seibiant Byr