Amodau a Thelerau
Cyhoeddiadau
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe'n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gwybodaeth gywir ar gael mewn unrhyw daflenni gwybodaeth, cyhoeddiadau a deunydd a lawrlwythwyd, ond ni all sicrhau cywirdeb gwybodaeth ac nid yw'n derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriadau neu gamliwiad, atebolrwydd am golled, siom, esgeulustod neu unrhyw ddifrod arall a achosir gan ddibyniaeth ar yr wybodaeth a gynhwysir yn yr adnoddau hyn oni bai y cânt eu hachosi gan weithred esgeulus neu anweithred gan y Cyngor.
Problemau firysau
Mae'r Cyngor yn gwneud pob ymdrech i wirio'r ffeiliau sydd ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan hon am firysau. Ni all y Cyngor dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddigwydd o ganlyniad i ddefnyddio deunydd a lawrlwythwyd. Rydym yn argymell bod defnyddwyr yn ailwirio'r holl ddeunydd a lawrlwythwyd gan ddefnyddio'u meddalwedd firysau eu hunain.
Newidiadau i'r Wefan
Mae'r defnyddiwr yn cydnabod ac yn derbyn y gall Croeso Bae Abertawe newid unrhyw agwedd ar y wefan, unrhyw wasanaethau neu gynnyrch a ddarperir drwy'r wefan o bryd i’w gilydd os ystyrir bod hynny’n briodol a heb rybudd i'r defnyddiwr. Hefyd, gall Croeso Bae Abertawe newid yr Amodau a Thelerau ar unrhyw adeg heb rybudd. Mae'r defnyddiwr yn derbyn na fydd ganddo unrhyw hawliad ar gyfer torri contract neu fel arall mewn perthynas â newid o'r fath.
Hawlfraint
Hawlfraint © Dinas a Sir Abertawe
Mae'r tudalennau hyn, oni nodir yn wahanol, wedi'u hamddiffyn gan hawlfraint. Ni chaniateir atgynhyrchu'r deunydd hwn mewn unrhyw ffurf heb ganiatâd ysgrifenedig Dinas a Sir Abertawe. Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn berthnasol ar gyfer cynnwys y wefan hon. Efallai y cedwir hawliau eiddo deallusol peth o'r deunydd hwn gan awduron unigol. Ni chaniateir defnyddio logo Dinas a Sir Abertawe mewn unrhyw ffordd heb ganiatâd ysgrifenedig.
Ymwadiad
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud pob ymdrech i ddarparu gwybodaeth sy'n gywir ac yn gyfoes. Fodd bynnag, ni all Cyngor Dinas a Sir Abertawe dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled, niwed, esgeulustod neu anghyfleustra o ganlyniad i ddefnyddio'r wefan hon ac unrhyw asedau y gellir eu lawrlwytho neu asedau eraill sy'n gysylltiedig â hi. Yn y rhan fwyaf o achosion, lanlwythwyd y cynnwys ar unrhyw dudalennau lle bydd www.visitswanseabay.com/listings yn rhagddodi'r URL gan drydydd parti.
Efallai bydd ein tudalennau gwe yn cynnig dolenni i wefannau eraill lle bo'n briodol, gyda phob ewyllys da. Nid yw Dinas a Sir Abertawe'n gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol ac ni fydd yn derbyn atebolrwydd am arddangos gwybodaeth anghywir neu am unrhyw ddigwyddiadau niweidiol a allai godi ar ôl dilyn dolenni i'r gwefannau hynny. Rydych yn cydnabod efallai na fyddwn bob amser yn nodi gwasanaethau y mae'n rhaid talu amdanynt, cynnwys a noddwyd neu gyfathrebu masnachol ac ati.
Sylwer, nodir unrhyw bellteroedd 'fel yr hed y frân' ac nad ydynt yn adlewyrchu unrhyw lwybrau cludiant. Felly, gall amseroedd teithio amrywio.
Pecynnau partner Croeso Bae Abertawe
Mae Cyngor Abertawe (Dinas a Sir Abertawe) yn gweithio mewn partneriaeth â busnesau lleol sy'n gysylltiedig â thwristiaeth ym Mae Abertawe drwy gynnig Pecynnau Partner marchnata twristiaeth. Brand marchnata cyrchfannau Cyngor Abertawe i gwsmeriaid yw Croeso Bae Abertawe a reolir gan Dîm Twristiaeth Cyngor Abertawe yn y Gwasanaethau Diwylliannol. Mae'r amodau a thelerau canlynol yn berthnasol.
Amodau a Thelerau 2024-25 (1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025)
-
Rhaid bod pob llety wedi'i raddio, neu'n aros i gael ei raddio (ar ôl gwneud cais) neu wedi'i gymeradwyo gan Croeso Cymru neu'r AA.
- Rhaid i bob darparwr gweithgareddau fod wedi'i achredu (fel y bo'n briodol) gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol neu'r sefydliad perthnasol, fel y'i cydnabyddir gan Croeso Cymru neu lle nad oes achrediad ar gael, rhaid i bob darparwr ddangos ei fod yn cydymffurfio â'r holl reoliadau tân a diogelwch perthnasol, a thrwy ymrwymo i'r bartneriaeth â ni rydych yn cadarnhau bod gennych yr yswiriant atebolrwydd cyhoeddus perthnasol ar waith sy'n werth o leiaf £5 miliwn.
- Rhaid bod pob gweithredwr bwyd a diod a chynhyrchwyr eitemau bwyd a diod lleol (gan gynnwys ar gyfer gwerthiannau archebion drwy'r post) wedi cael Sgôr Hylendid Bwyd rhwng 3 a 5.
- Cyfrifoldeb y gweithredwr/busnes yw cyflwyno cais i'r sefydliad perthnasol am radd/achrediad.
- Dim ond gweithredwyr llety, darparwyr gweithgareddau achrededig (gweler uchod), atyniadau, gweithredwyr bwyd a diod (â busnes sy'n ymwneud â defnyddwyr) a chynhyrchwyr bwyd a diod lleol, artistiaid a gweithwyr crefft â gwefan a busnes archebion drwy'r post ar-lein, sy'n talu ardrethi busnes neu dreth y cyngor yn Ardal Farchnata Bae Abertawe (gan gynnwys Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) sy'n gymwys i ddod yn Bartneriaid Croeso Bae Abertawe.
- Rhaid bod gan bob gweithredwr a restrir ar y safle y caniatâd cynllunio angenrheidiol er mwyn gweithredu ei fusnes.
- Rhaid talu'n brydlon am unrhyw gyfleoedd marchnata ychwanegol a brynwyd wrth dderbyn anfoneb ac o fewn 30 niwrnod (ceir manylion sut i dalu ar-lein neu dros y ffôn ar gefn yr anfoneb) Bydd peidio â thalu yn arwain at gael eich tynnu oddi ar croesobaeabertawe.com ac unrhyw weithgarwch marchnata yn y dyfodol (nes yr ymdrinnir â’r anfoneb neu'r taliad sy'n ddyledus).
- Mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw'r hawl i gymedroli cynnwys cyn ei gyhoeddi (ar-lein neu mewn print) a gwrthod unrhyw luniau neu ddeunyddiau hyrwyddol eraill sy’n anaddas.
- Mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw'r hawl i addasu unrhyw gopi hyrwyddol i sicrhau ei fod o faint addas ar gyfer y lle sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys deunydd a gyfieithwyd i'r Gymraeg.
- Trwy ddarparu lluniau fel Partner Croeso Bae Abertawe, mae busnes yn cadarnhau ei fod yn berchen ar yr hawlfraint briodol a'r hawl i'w defnyddio.
- Mae busnesau hefyd yn cydsynio y gellir defnyddio unrhyw luniau a ddarperir fel rhan o Becyn Partner ar gyfer unrhyw weithgarwch hyrwyddol a gynhelir gan Croeso Bae Abertawe (Dinas a Sir Abertawe), er enghraifft ar gyfryngau cymdeithasol neu mewn unrhyw sylw yn y cyfryngau.
- Mae'r prisiau ar gyfer y cyfleoedd marchnata ychwanegol sydd ar gael i'w prynu'n ddilys o 1 Ebrill 2024 tan 31 Mawrth 2025.
- Mae'n rhaid i bob cais gydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 ac unrhyw statudau perthnasol eraill.
- Nid yw Dinas a Sir Abertawe yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am wallau, anghywirdebau neu anweithredoedd.
- Mae gan Dinas a Sir Abertawe yr hawl i wrthod unrhyw gais yn ôl ei ddisgresiwn.
- Drwy wneud cais i fod yn bartner Croeso Bae Abertawe, rydych yn cadarnhau mai chi yw perchennog y busnes neu eich bod wedi cael caniatâd ganddo i wneud hynny.
- Trwy ddod yn Bartner Croeso Bae Abertawe, rydych yn cytuno i dderbyn gwybodaeth berthnasol gennym mewn perthynas â'ch busnes twristiaeth a Phecyn Partner Croeso Bae Abertawe. Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu rhannu ag unrhyw drydydd parti.
Os yw'ch busnes yn cydymffurfio â'r amodau a thelerau uchod a hoffech hyrwyddo'ch busnes gyda Croeso Bae Abertawe, gallwch gofrestru'ch busnes yma neu gael rhagor o wybodaeth am ein cyfleoedd marchnata.
Digwyddiadau
- Digwyddiadau a gynhelir yn Ardal Farchnata Bae Abertawe (gan gynnwys Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) yn unig fydd yn gymwys i gael eu cyhoeddi ar croesobaeabertawe.com.
- Mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw'r hawl i gymedroli cynnwys cyn ei gyhoeddi (ar-lein neu mewn print) a gwrthod unrhyw luniau neu ddeunyddiau hyrwyddol eraill sy’n anaddas.
- Digwyddiadau yr ystyrir eu bod yn berthnasol i ymwelwyr posib â Bae Abertawe gan Ddinas a Sir Abertawe yn unig fydd yn gymwys i gael eu cyhoeddi ar croesobaeabertawe.com.
- Mae gan Ddinas a Sir Abertawe yr hawl i wrthod cyhoeddi unrhyw ddigwyddiad ar croesobaeabertawe.com yn ôl ei ddisgresiwn.
- Caiff pob digwyddiad ei wirio cyn cael ei gymeradwyo a'i gyhoeddi, ac efallai caiff ei olygu ychydig i gyd-fynd ag arddull y wefan. Rydym yn ceisio cyhoeddi digwyddiadau cymeradwy o fewn 72 awr.