Wyddech chi yr argymhellir bod oedolion hŷn (60+) yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol dyddiol i gael buddion iechyd, gan gynnwys buddion iechyd corfforol a meddyliol, lles a chymdeithasol da.
Mae tîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe’n gyffrous i fod yn rhan o ymgyrch newydd ledled Cymru i gynnwys oedolion hŷn mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol gan weithio mewn partneriaeth â Freedom Leisure i ddatblygu rhaglen weithgareddau ddifyr ac amrywiol ar draws Abertawe fydd yn:
✅ Helpu i’ch ysgogi, gan fod cadw’n heini’n darparu buddion gwych i’ch iechyd meddyliol a chorfforol.
✅ Eich atgoffa i gadw’n ddiogel a bod yn gyfrifol
✅ Eich cefnogi
Bydd mwyafrif ein dosbarthiadau’n cael eu cyflwyno gan Freedom Leisure, a gallwch chi fod yn rhan o’u Cymuned Heini – byddwch yn heini, byddwch yn gymdeithasol, byddwch yn chi eich hun!
Mae’r dosbarthiadau ffitrwydd ‘Aur‘ yn berffaith i’r rheini sydd am ddechrau ymarfer corff neu ddychwelyd i ymarfer corff ar ôl y flwyddyn ddiwethaf dim ond £3 ac maent yn cynnwys cylchedu, aerobeg, hyfforddiant ffitrwydd ac aerobeg dŵr.
Mae ychydig o weithgarwch corfforol yn dda, ond mae mwy yn well! Mae ein rhaglen Oedolion Hŷn Heini hefyd yn cynnwys chwaraeon cerdded, boreau coffi a sesiynau aml-gamp fel sesiynau tenis bach a thenis bwrdd ar draws ein canolfannau.
Gallwch gadw lle ar-lein neu gallwch alw heibio un o’n 5 canolfan hamdden i gadw lle (gweler y rhifau isod).
Gallwch weld ein hamserlen lawn yma
Mae ParkLives fel arfer yn cynnig gweithgareddau difyr mewn parciau, gan annog pobl i wneud ffrindiau newydd a mwynhau mannau gwyrdd yn eu cymunedau lleol. O droeon iachus yn y gymuned, zumba â sesiynau cylchedu i sesiynau mynyddfyrddio a Thai Chi, mae amrywiaeth o sesiynau ParkLives i blesio pawb.
Mae’r gweithgareddau, sydd wedi’u hamserlenni, fel arfer yn para awr a chânt eu harwain gan arweinwyr sesiwn cefnogol a chyfeillgar sydd wedi’u hyfforddi a gwirfoddolwyr o’r gymuned leol. Gwelir manylion yma
Gyda holl fanteision cerdded, nid oes esgus am beidio â mynd allan a mwynhau’r awyr agored a’r golygfeydd o’n cwmpas. Gallwch gael gwybod popeth y mae ei angen arnoch am gadw’n iach drwy gerdded gyda thaith gerdded dan arweiniad, llwybrau cerdded hirsefydlog y gallwch roi cynnig arnynt, neu drwy ymuno ag un o’r grwpiau cerdded pwrpasol yn ardal Bae Abertawe yma.
Mae’r rhaglen Oedolion Hŷn Heini a gyflwynir gan dîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Freedom Leisure. Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Gynllun Cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach, ac fe’i cydlynir yn genedlaethol gan Chwaraeon Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch chwaraeonaciechyd@abertawe.gov.uk