fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Cerdded ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr

Cerdded yw un o’r ffyrdd gorau i ddarganfod arfordir hyfryd Bae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr a dyma rhai o’r ffyrdd gorau i archwilio! Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe yn cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr.

Mewn gwirionedd, mae Rhosili “godidog”, ar bwynt mwyaf gorllewinol Gŵyr, ymysg ’10 Taith Gerdded Orau ym Mhrydain’ y Telegraph a ’20 Taith Gerdded Orau Prydain Wledig’ The Times. Ac wrth gwrs nid yr arfordir yn unig sy’n arbennig: yn y mewndir, mae Penrhyn Gŵyr yn dirlun amrywiol iawn, yn llawn fflora a ffawna na fyddwch am eu colli. Rhowch gynnig ar Lwybr Gŵyr am daith heriol ar draws y penrhyn. Neu ewch i ‘Wlad y Sgydau’ yng Nghwm Nedd, i’r dwyrain o Abertawe, i weld golygfeydd hollol wahanol.

Isod, ceir yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gerdded ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr – o lwybrau cerdded, llety, llwybrau a hyd yn oed manylion am sut i deithio ar ddwy olwyn!