Lleoedd i aros ynddynt, pethau i’w gwneud – hyd yn oed lleoedd i fwyta ac yfed. Maent i gyd yn bethau y gellir eu gwneud gyda’r teulu cyfan. Ie, y teulu cyfan. Mae croeso i gŵn a does dim byd yn well na rhedeg ar hyd y tywod – bydd eich ffrind gorau blewog yn mwynhau hynny hefyd!
Ceir llawer o draethau sy’n croesawu cŵn. Y gorau oll (yn ôl TripAdvisor), yw Bae Rhosili sy’n caniatáu cŵn drwy gydol y flwyddyn.
Mae cŵn yn cael mynd ar bob un o’r traethau hyn mewn rhyw ffordd – ond cofiwch efallai fydd cyfyngiadau mynediad neu efallai fydd cŵn yn cael eu gwahardd ar rai adegau’r flwyddyn. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y tudalennau traethau unigol.
Ie, pryd bynnag rydych chi am fynd yno. Dewch â’ch ffrind blewog i’r traethau hyn unrhyw bryd mewn unrhyw dywydd – fflip fflopiau neu esgidiau glaw.
Dyma restr o’r holl dudalennau traethau i gŵn mewn un lle – mae rhai’n caniatáu cŵn drwy gydol y flwyddyn ac mae gan rai eraill gyfyngiadau mynediad neu dymhorol. Gwiriwch y tudalennau unigol am fwy o wybodaeth.
Os nad oedd y traethau’n ddigon, bydd eich ci’n cael amser bendigedig yn ein parciau a’n mannau awyr agored. Maent yn cynnwys Parc Singleton 200 erw, y gerddi addurnol yng Nghlun, rhan olygfaol prom Abertawe a pharciau niferus eraill, llwybrau arfordirol a llwybrau ger afonydd.
Mae rhestr gynhwysfawr o holl barciau, gwarchodfeydd natur a mannau awyr agored Bae Abertawe gyda mapiau a chyfleusterau ar gael yma.
Mae llwybrau amrywiol ar gael, o drotian ar hyd llwybr yr arfordir i frasgamu drwy goetiroedd a thiroedd comin.
Mae da byw yn crwydro o gwmpas llawer o ardal Gŵyr ac mae llawer o lwybrau cerdded yn croesi tir fferm. Mae’n rhaid i chi gadw’ch ci ar dennyn yn y sefyllfaoedd hyn, felly darllenwch y Côd Cerdded Cŵn.
Codwch y baw! Mae biniau gwastraff cŵn ar gael ar hyd yr holl lwybrau cerdded.
Ar ôl diwrnod da’n archwilio’r ardal, does dim byd gwell na gwely clyd i i gysgu ynddo. A byddwch yn gwybod bod croeso i’ch ci hefyd. Rydym yn awgrymu galw ymlaen llaw i gadarnhau oherwydd bod llawer o’n lleoedd i aros yn caniatáu anifeiliaid anwes drwy drefnu hynny ymlaen llaw a chan ofyn am rybudd. Chwiliwch am y symbol ‘croesewir anifeiliaid anwes drwy drefnu ymlaen llaw’.
Gwestai, lleoedd gwyliau i’w rhentu a mwy. Porwch drwy’r rhestr hon sy’n cynnwys ein holl lety sy’n addas i gŵn
Mae’r holl westai hyn yn croesawu anifeiliaid anwes drwy drefnu hynny ymlaen llaw. Maent yn lleoliadau gwych i archwilio’r ardal (ar ddwy goes neu bedair).
Rhestr arall sy’n hunanesboniadwy.
Un o brofiadau gwyliau poblogaidd y DU – dyma rai sy’n addas i anifeiliaid.
Dyma restr o lety Gwely a Brecwast sy’n derbyn cŵn.
Rydym wedi cael ein dal sawl tro (perchnogion cŵn).Diwrnod hyfryd allan yn cerdded. Chwant bwyd. Sylweddoli nad oes croeso i gŵn ym mhob man. Yna teimlo’n drist. Yna dysgu o’r profiad a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn llawn syniadau! Cynlluniwch ymlaen llaw gyda rhestr o leoedd bwyd a diod sy’n addas i gŵn.