Gwnewch Fae Abertawe yn Lle Hapus i Chi
Croeso i Fae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr!
Mae Bae Abertawe yn ne Cymru'n gyrchfan arfordirol croesawgar ac amrywiol sy'n frwd dros ddiwylliant, creadigrwydd a chynaliadwyedd. Mae ardal Bae Abertawe'n cynnwys Gŵyr, y Mwmbwls, canol dinas Abertawe ac Abertawe wledig.
Dinas Abertawe yw ail ddinas fwyaf Cymru, ac mae wedi datblygu i fod yn gyrchfan cyfoes sy'n ffynnu ac sy'n cynnig bywyd nos gwych, llawer o fwytai a chaffis, lleoliadau diwylliannol niferus a fydd yn eich ysbrydoli trwy gelf, theatr a hanes, a digon o atyniadau awyr agored i chi eu mwynhau.
Mae penrhyn Gŵyr a'r Mwmbwls yn berffaith ar gyfer creu atgofion melys ar lan y môr - o wyliau difyr i'r teulu a phenwythnosau rhamantus, i gerdded, chwaraeon dŵr a seibiannau gwych i bobl sy'n dwlu ar fwyd, gyda morlin a thraethau anghredadwy sy'n ymestyn dros filltiroedd. Rydym hefyd yn gartref i Dirwedd Genedlaethol Gŵyr - ardal o harddwch naturiol eithriadol, sef yr un gyntaf a enwyd yn y DU ym 1956.
Mae Abertawe wledig yn berffaith i'r rheini sy'n gobeithio cymryd seibiant o fywyd prysur y ddinas gyda digon o lynnoedd, parciau, llwybrau cerdded a mannau agored i bawb eu mwynhau.
O fywyd nos i ddigwyddiadau mawr ac o'r ddinas i'r môr, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i ffordd o sicrhau mai Bae Abertawe yw eich lle hapus!
Archwilio'r ddinas o'r môr
Digwyddiadau
Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe!
Cerdded
Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe yn cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy.
Addas i Gŵn
Does dim rhaid i'ch anifail anwes aros gartref pan fyddwch yn archwilio Bae Abertawe oherwydd bod gennym ddigonedd o lety sy'n addas i gŵn.
Cerddoriaeth Fyw
O dafarnau clyd i fariau prysur, mae bandiau, cantorion a pherfformwyr lleol talentog yn cyfoethogi bywyd nos Abertawe. P'un a ydych yn hoff o roc, jazz, cerddoriaeth annibynnol neu acwstig, dewch o hyd i leoliad sy'n…
Abertawe
Gallwch ddod o hyd i siopau, sinemâu, theatrau, arena fodern a chastell hen iawn yma! Mae Bae Abertawe'n ardal arfordirol brydferth yn ne Cymru, sy'n cynnwys dinas ar lan y môr.
Gŵyr
Yn daith fer yn unig yn y car o Abertawe, mae Penrhyn Gŵyr yn fwy nag wyneb pert. Fe'i hadwaenir bellach fel Tirwedd Genedlaethol Gŵyr – ardal o harddwch naturiol eithriadol, sef yr un gyntaf a enwyd yn y DU ym 1956.
Y Mwmbwls
Croeso i bentref clyd a chosmopolitanaidd y Mwmbwls. Mae’r Mwmbwls yn nodi dechrau arfordir Penrhyn Gŵyr. Mae’n ardal hyfryd o Abertawe a, phan ewch yno, mae’n amlwg pam!
Abertawe Wledig
Mae mwy i Fae Abertawe na’r ddinas, y Mwmbwls a Gŵyr - Mae digon o swyn yn llonyddwch cefn gwlad Abertawe wledig.
Digwyddiadau na ddylech eu colli
- Feb 28, 2026 - Mar 1, 2026
Arddangosiad
Croeso mewn cydweithrediad a Shirgar
O ddydd Gwener 28 Chwefror i ddydd Sad 1 Mawrth 2026 ar draws canol y ddinas, bydd…
- Brangwyn
- Apr 2, 2026
Chwaraeon
Gwobrau Chwaraeon Abertawe
Dewch i ddathlu athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a thimau chwaraeon…
IRONMAN 70.3 Abertawe
Gall athletwyr a gwylwyr ddisgwyl llwybr gwych mewn cyrchfan rasys sy’n cynnig…
10k Bae Abertawe
Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn dychwelyd ar gyfer ei 45 ras ar 20 Medi 2026, hyfryd…
Digwyddiadau yn Abertawe
Cymerwch gip ar ein rhestrau i ddod o hyd i'r holl ddigwyddiadau gwych sy'n digwydd yn Abertawe
Darganfyddwch Fae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Atyniadau
Dewch i ddysgu am dreftadaeth forol y ddinas – mae Abertawe’n gartref i’r amgueddfa hynaf a’r amgueddfa fwyaf cyfoes yng Nghymru, ac mae mynediad am ddim i'r ddwy! Os ydych chi'n hoff o gelf…
Gweithgareddau
Mae lleoliad Bae Abertawe a Gŵyr yn golygu bod gennym lwyth o opsiynau gweithgareddau ar gael. Gallwch archwilio’r arfordir a chefn gwlad ar droed, ar gefn beic neu drwy farchogaeth, ac mae pob math o chwaraeon dŵr ar gael!
Bywyd Nos
Pan fydd y penwythnos yn cyrraedd ac mae'n amser i ymlacio, Abertawe yw'r lle i fod. Mae gennych ddigon o ddewis, ni waeth a ydych chi'n mynd am ddiod dawel gyda ffrindiau, yn gwrando ar gerddoriaeth fyw neu'n…
Blog
Eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf am bethau i'w gwneud a digwyddiadau ym Mae Abertawe? Darllenwch ein blog!