Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe’n dychwelyd eleni i gyflwyno rhai o’r artistiaid a’r bandiau lleol a rhyngwladol gorau sydd ar gael.
Bydd y ddinas yn llawn cyffro a cherddoriaeth jazz o 15 i 19 Mehefin, pan fydd yr ŵyl yn dychwelyd i Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe’n falch o gyflwyno Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe mewn partneriaeth â Chlwb Jazz Abertawe.
Archebwch docyn VIP i gael gostyngiad oddi ar holl ddigwyddiadau Gŵyl Jazz Abertawe; £90 ar gyfer y chwe chyngerdd, arbediad o £37, yn ogystal â seddi blaenoriaeth! Mae tocynnau VIP ar gael drwy swyddfa docynnau Theatr y Grand Abertawe, ffoniwch 01792 475715 neu galwch heibio. 5% ffïoedd archebu.
Nos Iau 15 Mehefin 2023, 8pm
Swansea Jazz Club at The Garage, Uplands
Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe’n cyflwyno HOOP, band o safon fyd-eang â saith aelod sy’n atgoffaol o’r cyfnod uniad jazz ffync/roc.
Nos Wener 16 Mehefin 2023, 8pm
Theatr Dylan Thomas, Ardal Forol
Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe’n cyflwyno ‘Big Band Evolution’ gan Fand Mawr Llawn Sêr Laurence Cottle gydag 16 o gerddorion jazz a sesiwn gorau’r DU.
Dydd Sadwrn 17 Mehefin 2023, 2.30pm
Theatr Dylan Thomas, Ardal Forol
Bydd Daniel John Martin, un o feiolinwyr gorau ei genhedlaeth, yn teithio o Baris i ymuno â rhai o gerddorion jazz sipsiwn gorau Llundain i gyflwyno prynhawn o Django Reinhardt, Stephane Grappelli a jazz manouche gwreiddiol o’r radd flaenaf!
Nos Sadwrn 17 Mehefin 2023, 8pm
Theatr Dylan Thomas, yr Ardal Forol
Mae’r band 7 aelod gwych hwn o Lundain sy’n ymroddedig i ‘Swamp soul’ sef math o gerddoriaeth yr enaid yn dod â rhythm ac enaid New Orleans yn fyw!
Dydd Sul, 18 Mehefin 2023, 2.30pm
Theatr Dylan Thomas, yr Ardal Forol
Mae Iain Mackenzie yn un o gantorion jazz, lolfa a band mawr y mae’r galw mwyaf amdano yn y DU. Mae Iain yn perfformio’n rheolaidd gyda cherddorfeydd a bandiau mawr o’r radd flaenaf, gan gynnwys rhai’r BBC ac RTE, ac ar hyn o bryd ef yw’r prif leisydd gwrywaidd ar gyfer Cerddorfa Jazz Ronnie Scott, a chanwr preswyl gyda Cherddorfa Ddawns Llundain yn The Ritz yn Piccadilly yn Llundain.
Dydd Sul, 18 Mehefin 2023, 8pm
Theatr Dylan Thomas, Ardal Forol
Dônt â noson gyffrous o gerddoriaeth gan Chaka Khan, Earth Wind and Fire ac Average White Band ymysg eraill i Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, gyda sain y cyrn yn flaenllaw, a byddant yng nghwmni band o sêr sy’n cynnwys Mo Pleasure.
Mae Cerdd Abertawe’n falch o gefnogi Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, sy’n darparu cyfle ‘Profiadau Byw’ Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru i offerynwyr jazz ifanc yn Abertawe.
Mae’n bleser gan Gerdd Abertawe gyflwyno Bonansa Canu Cyrn ar y Cyd ar gyfer yr holl athrawon a phlant ysgol sydd wedi cymryd rhan yn Rhaglen Profiadau Cyntaf y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol.