fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Mae’r arddangosfa Dwlu ar y Geiriau yng Nghanolfan Dylan Thomas yn adrodd stori bywyd Dylan, ac yn sôn am ei waith a’i gyflawniadau o’i enedigaeth ar 27 Hydref 1914 yn Abertawe i’w farwolaeth ar 9 Tachwedd 1953 yn Efrog Newydd.

Er bod Arddangosfa Dylan Thomas ar gau o hyd, bydd y tîm yn parhau i’n helpu i archwilio’r arddangosfa rithwir ‘Dwlu ar y Geiriau’ dros yr hydref, ac i ddysgu am Dylan o’n cartrefi ein hunain.

Yr hanner tymor hwn byddwn yn rhannu amrywiaeth o weithgareddau sy’n seiliedig ar yr anifeiliaid yng ngherddi a straeon Dylan. Mae gennym daflenni lliwio unigryw, newydd ac ysgogiadau ysgrifennu a fydd yn wych ar gyfer pob oedran, a chwilair sy’n cynnwys anifail neu ddau y byddwch yn synnu bod Dylan wedi sôn amdanyn nhw! Rydym hefyd yn dylunio pypedau bys papur sgrap y bydd teuluoedd â phlant dan 6 oed yn dwlu arnyn nhw.

Ysgrifennodd Dylan yn deimladwy am Blitz Tair Noson Abertawe yn ei ddrama radio ‘Return Journey’.  Byddwn yn coffáu 80 o flynyddoedd ers y Blitz y mis Chwefror hwn gyda blogiau a gweithgareddau, gan ddefnyddio ‘Return Journey’ a safbwyntiau unigryw eraill fel man cychwyn. Cadwch lygad am weithgarwch ysgrifennu eich taith ‘Return Journey’ eich hun, map stori  ‘Return Journey’ a chyfle i greu eich llyfr sbonc eich hun o rai o dirnodau diwylliannol Abertawe.

Cadwch lygad ar Facebook a Twitter am ragor o fanylion, a sgroliwch lawr i weld gweithgareddau y gellir eu lawrlwytho.

Yn dylanthomas.com, gallwch ddod o hyd i wybodaeth helaeth am Dylan, ei waith, ei hoff leoedd lleol, Casgliad Dylan Thomas a’r blog, sy’n cynnwys erthyglau rheolaidd gan dîm Dylan Thomas ac ysgrifenwyr gwadd eraill yn gyson.

EWCH I’R WEFAN SWYDDOGOL

Dilynwch ni

Cadwch lygad ar ein cyfrifon Facebook a Twitter am y newyddion diweddaf, ffeithiau a gweithgareddau llawn hwyl i’r teulu cyfan. Gallwch hefyd ddilyn #AryDiwrnodHwn ar gyfryngau cymdeithasol yr arddangosfa, sy’n edrych yn ôl dros gyfnodau ym mywyd y bardd bob dydd.

Facebook

Twitter