fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Mae ardal Bae Abertawe yn arbennig o ran y natur a’r bywyd gwyllt sydd ar gael, mae ei leoliad daearyddol yn cwmpasu’r arfordir a chefn gwlad, o fewn hanner awr gallwch fynd o nofio yn y môr gyda gwymon yn gogleisio’ch traed i sefyll ar ben mynydd gyda boncathod a barcutiaid yn mynd mewn cylch uwch eich pen.

Gwnaed Gŵyr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain ym mis Mai 1956. Mae llawer ohoni’n cynnwys tir comin a thraethau sy’n darparu amgylchedd heb ei ail i fywyd gwyllt a phlanhigion ffynnu.

Mae blodau gwyllt, mwsoglau a phlanhigion prin a hardd ym mhobman, a phob math o greaduriaid mewn coedwigoedd, gwlyptiroedd a thwyni. Mae 9 gwarchodfa natur bwrpasol yn yr ardal.

Rydym wedi creu fideos a chanllawiau sy’n arddangos tair ardal lle gallwch brofi’r gorau o natur a bywyd gwyllt. Gallwch hefyd ddarllen mwy am y Côd Cefn Gwlad a’r ffyrdd gorau o fod yn gynaliadwy wrth ymweld â’r ardal.

Gwyliwch yr arbenigwr bywyd gwyllt a’r cyflwynydd teledu, Iolo Williams, mewn tri fideo Saffari’r Gwanwyn sydd wedi’u creu’n arbennig –sy’n cynnwys Abertawe a’r Mwmbwls, Abertawe Wledig a Gŵyr a thri sy’n arddangos natur a bywyd gwyllt ym Mae Abertawe, gogledd Gŵyr a de Gŵyr.

Iolo at Clyne

Ymweld yn gyfrifol

Er mwyn sicrhau bod yr ardaloedd hyn sydd heb eu difetha’n aros felly, mae’n bwysig bod ymwelwyr yn parchu’r ardal drwy ddilyn y côd cefn gwlad, mynd â sbwriel adref a pheidio ag amharu ar fywyd gwyllt a ffawna. Rydym am i chi gadw’n ddiogel hefyd, yn enwedig ger dŵr a da byw.

Darllen rhagor