fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Porth Einon

Mae Porth Einon (SA3 1NN) yn un o draethau mwyaf garw Penrhyn Gŵyr Mae’r draethlin garegog yn gartref i golomen y graig wyllt ac amrywiaeth o bryfed fel y gweirlöyn llwyd sy’n ffynnu yn yr eithin trwchus a’r grug. Gwarchodfa natur yw Sedger’s Bank y mae’r rhan fwyaf ohoni o dan y dŵr, ac mae’n gartref i gregyn crachod, cregyn gleision, gwichiaid môr a gwymon cwrel. Pan fo’r llanw ar drai, daw boncyffion i’r golwg – olion coedwig hynafol.

 

 

 

Coed y Parc

Parc ceirw canoloesol oedd Coed y Parc (SA3 2EH) yn wreiddiol, ac mae bellach yn cynnwys 164 erw o goed aeddfed gan gynnwys derw ac ynn mawreddog. Mae’n gartref i amrywiaeth o adar, planhigion ac anifeiliaid gan gynnwys yr ystlum pedol lleiaf prin sydd wedi’i warchod. Mae hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig daearegol a biolegol dynodedig. Mae’r parc yn cynnwys llawer o gofadeiladau hanesyddol, gan gynnwys odyn galch draddodiadol o ganol y 1800au a Giant’s Grave, bedd sy’n dyddio o’r cyfnod Neolithig lle darganfuwyd darnau o esgyrn o 40 o fodau dynol.