Mae cerdded yn bendant yn dda ar gyfer ffitrwydd corfforol a datblygu dwysedd esgyrn, ond mae bod yn yr awyr agored, ym myd natur, hefyd yn wych i’ch lles meddyliol – gan wella’ch hwyliau a gostwng pryder – ac os ydych chi’n cerdded gyda ffrind neu mewn grŵp mae hefyd yn wych ar gyfer eich iechyd cymdeithasol!
Ym Mae Abertawe mae gennym amrywiaeth eang o deithiau cerdded, o droeon hamddenol ar hyd y Prom i gerdded Ffordd Gŵyr – ond nid y cerdded yn unig sy’n bwysig, efallai y dylech gymryd saib bob hyn a hyn i ddod o hyd i gregyn ar hyd glan y môr, teimlo’r gwynt yn eich wyneb ar hyd Llwybr Arfordir Gŵyr neu stopio i wylio adar y môr yn troelli uwchben. Mwynhewch y foment a’r gobaith yw y bydd yn eich helpu i ddod o hyd i eiliad o heddwch a llonyddwch.
Gwyddom ers tro fod y cysylltiad agos sydd gan bobl â’u cŵn yn fuddiol i’w hiechyd – y gwmnïaeth a’r cyswllt agos – yn ogystal â’r angen i fynd am dro ddwywaith y dydd!
Mae gennym lawer o lety a chaffis sy’n croesawu cŵn ym Mae Abertawe lle caiff y ddau ohonoch groeso – a byddwch chi a’ch ffrind gorau pedair coes yn gallu mwynhau tro bach gwahanol bob dydd.
Mae traeth Rhosili yn lle agored gwych ar gyfer tro hir hyfryd, neu ewch am dro ar hyd y Promenâd o Abertawe i’r Mwmbwls (a gall y ddau ohonoch gael trît pan fyddwch chi’n cyrraedd!).
Mae cerdded mewn coetir drwy’r coed a gwrando ar gân yr adar yn ymarfer ymlaciol a chadarnhaol, ond gallech fynd â hyn gam ymhellach a phrofi ymwybyddiaeth ofalgar wrth ymdrochi yn y goedwig.
Roedd yr arfer syml hwn o fod yn dawel ac yn llonydd mewn coedwig neu goedydd, er mwyn eich lles, wedi dechrau yn Japan. Drwy glirio’ch meddwl o’ch ‘rhestr o bethau i’w gwneud’ a dod yn fwy ymwybodol o olygfeydd, synau ac arogleuon byd natur o’ch cwmpas – rydych chi’n sylwi’n fwy ar y bywyd gwyllt sydd gerllaw a gallai hyn eich helpu i brofi ymdeimlad o dawelwch a llonyddwch.
A does dim rhaid i chi fentro i’r diffeithwch – mae Parc Gwledig Clun dafliad carreg o’r ddinas a gellir cyrraedd Coed Cwm Penllergaer yn hawdd o’r M4. Mae gan ein parciau a’n gerddi adrannau coediog hefyd lle gallwch ddod o hyd i rywfaint o heddwch a llonyddwch.
Gwnewch yn fawr o’ch amser yn yr awyr agored drwy fod yn ymwybodol o’r bywyd gwyllt o’ch cwmpas. Os ewch chi â phâr o finocwlars ar eich troeon – gallwch weld hyd yn oed yn fwy. Bydd yr amser a’r amynedd y mae’n ei gymryd i gadw llygad am fywyd gwyllt yn helpu i dawelu’ch meddwl a gwerthfawrogi’ch amgylchoedd hyd yn oed yn fwy.
Mae’r naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu Iolo Williams wedi mynd ar ambell dro natur yn Abertawe a Gŵyr yn ddiweddar – gwyliwch ei fideos Saffari Bae Abertawe i gael ambell awgrym da ar wylio bywyd gwyllt.
Mae’r gaeaf yn amser gwych i weld ein hawyr dywyll ar ei gorau. Gwisgwch yn gynnes, ewch â blanced, fflasg (byrbryd neu ddau ganol nos!) a thortsh – a phrofwch heddwch llwyr gwylio’r cytserau’n symud ar draws yr awyr.
Darllenwch ein tudalen Awyr Dywyll am y lleoedd gorau i fynd iddynt a rhai lluniau a fideos hyfryd i godi awydd arnoch i fynd am dro yng ngoleuni’r lleuad. Rydym yn argymell eich bod yn mynd â’ch ffôn a rhoi gwybod i rywun ble rydych chi’n mynd – neu well byth, ewch â ffrind gyda chi i rannu’ch blanced!
Efallai mai eich ffordd o gyflawni rhywfaint o dawelwch mewnol yw drwy gymryd rhan mewn rhyw weithgaredd awyr agored? P’un a ydych chi’n mwynhau beicio neu chwaraeon dŵr y gaeaf, gall Bae Abertawe eich helpu i fod yn heini er mwyn ymlacio.
Os ydych yn gwneud gweithgareddau yn yr awyr agored yn yr oerfel, gwnewch yn siŵr bod gennych yr offer cywir a dillad cynnes, neu siwt ddŵr ar gyfer y gaeaf. Byddem yn argymell eich bod yn rhoi cynnig ar weithgareddau awyr agored yn y gaeaf dim ond os ydych eisoes yn brofiadol neu gyda gweithredwr achrededig.
… weithiau’r cyfan y mae angen i ni ei wneud i ailfywiogi yw treulio amser gyda’n teuluoedd, i ffwrdd o drefn ddyddiol gwaith ac ysgol. Mae gennym draethau gwych i redeg o gwmpas arnynt ac atyniadau anhygoel i’w harchwilio – beth am fwydo’r crocodeilod yn Plantasia, rhoi cynnig ar y cwrs Ninja Warrior neu archwilio byd dirgel ‘His Dark Materials‘ yn Oriel Gelf Glynn Vivian!
… yn ein hamgueddfeydd a’n horielau; ganwyd y bardd byd-enwog Dylan Thomas yn Abertawe, ewch i weld ei fan geni i ganfod y cysylltiad â’i awen, yna dysgwch ragor amdano yn Arddangosfa Dylan Thomas.
… cymerwch hoe i fwynhau cerddoriaeth, y theatr neu gomedi, ar eich pen eich hun neu gyda ffrind – anghofiwch fywyd pob dydd am gwpwl o oriau wrth i chi eistedd yn ôl a mwynhau’r sioe! (Cymerwch gip ar ddigwyddiadau Theatr y Grand, Arena Abertawe a Theatr Taliesin fel man cychwyn!).
… ac ar ddiwedd y dydd, bydd angen rhywle i gwtsio lan. P’un a ydych chi’n ystyried aros mewn lle clyd yng nghefn gwlad neu westy yng nghanol y ddinas gyda phwll – ym Mae Abertawe gallwch gael cyffro neu lonyddwch!
… gall bwyd fod yn gysur yr adeg hon o’r flwyddyn, felly mae’n bwysig trefnu ble y byddwch yn bwyta yn ystod eich diwrnod a dewis eich hoff fwyd. Mwg o siocled poeth neu ginio tafarn sylweddol wrth ymyl tanllwyth o dân ar ôl tro ar hyd yr arfordir yw’r peth i’ch cynhesu y tu mewn a’r tu allan – neu sbwyliwch eich hun gyda swper cyn sioe i wneud noson mas yn y ddinas hyd yn oed yn fwy arbennig.