Parciau a Gerddi Abertawe ... Mae digonedd o barciau a gerddi yn Abertawe gyda thros 52 o ardaloedd i gyd-fynd â'i harfordir. Mannau gwyrdd tawel, gwelyau blodau prydferth a gweithgareddau difyr i deuluoedd - mae ein parciau'n lle gwych i ymlacio a mwynhau'r awyr iach!
01792 280210
http://www.swansea.gov.uk/parks
Partner Swyddogol
Swansea Parks and Gardens
Parciau a Gerddi Abertawe
Beth am fynd allan yn yr awyr iach? Gyda chynifer o barciau, gerddi a mannau gwyrdd ym mae Abertawe, dydych chi byth yn bell iawn o lwybr cerdded hamddenol drwy'r parc, arddangosfa flodau liwgar neu ddiwrnod mas hwyl i'r teulu. Dyma rai uchafbwyntiau:
Parc Singleton (SA2 8PY):
Parc mawr sy'n enwog am ei erwau o le a'i amrywiaeth o dirweddau. Mae gan Singleton ei erddi botaneg a’i lyn ei hun, ac mae'n cynnal nifer o ddigwyddiadau cerddoriaeth proffil uchel. Mae ganddo hefyd gyfleusterau gwych i deuluoedd:
- Golff Gwallgof - ar agor ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau’r ysgol o 1 Mai 2021. (11am-5pm, £3.15 fesul person, £2.65 consesiwn)
- Llyn Cychod gyda phedalos (ar gau ar hyn o bryd, bwriedir ei ailagor yn ystod mis Mai - i'w gadarnhau)
- Ardal chwarae i blant.
Gerddi Clun (SA3 5BA)
Mae'r gerddi'n enwog yn rhyngwladol am eu casgliadau o Rododendronau, Ieir Gwynion ac Enkianthus, ac mae gan y parcdir hwn sydd wedi'i dirlunio nifer o nodweddion diddorol gan gynnwys ffoledd (tŵr y Llyngesydd) a phont Japaneaidd yn ogystal â'r magnolia talaf a gofnodwyd ym Mhrydain.
Parc Cwmdoncyn (SA2 0RA)
Mae Cwmdoncyn yn ardal Uplands y ddinas, a bydd bob amser yn gysylltiedig â Dylan Thomas - fe'i magwyd mewn tŷ a oedd yn edrych dros y parc ac roedd yn chwarae yno fel bachgen. Mae gan y parc ardal chwarae i blant, lawnt fowls, cyrtiau tenis a chaffi.
Gerddi Southend (SA3 5TN):
Parc poblogaidd mewn lleoliad glan môr yn y Mwmbwls - mae ganddo welyau blodau lliwgar a ffurfiol a llu o weithgareddau i deuluoedd gan gynnwys:
- Golff Gwallgof - ar agor ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau’r ysgol o 1 Mai 2021. (11am-5pm, £3.15 fesul person, £2.65 consesiwn)
- Ardal chwarae i blant a byrddau picnic
- Ardal boules a chyrtiau tennis
Yn sicr, cewch chi brofiad o safon - mae 6 o barciau Abertawe wedi ennill Gwobr y Faner Werdd fawreddog, sy'n cydnabod parciau a mannau gwyrdd gorau'r DU. Mae'r rhain yn cynnwys Gerddi Clun, Gerddi Botaneg Singleton, Parc Victoria, Parc Cwmdoncyn, Parc Llewelyn a Pharc Brynmill - mae'n rhaid i chi ymweld â nhw os ydych ar daith i erddi a mannau gwyrdd yr ardal.
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Cyswllt
Gwobrau
Gwobr Baner Werdd
Achrediadau
Tourism Swansea Bay Member
The following parks have been awarded the Green Flag status- Brynmill, Clyne, Cwmdonkin, Singleton and Victoria Park.
Hygyrchedd