fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Croeso i wefan croesobaeabertawe.com a gynhelir gan Croeso Bae Abertawe  (“Croeso Bae Abertawe”, “ni”, “ein”).

Rydym yn parchu preifatrwydd ymwelwyr â’n gwefan ac wedi llunio’r polisi preifatrwydd hwn gyda’r nod o roi tawelwch meddwl a hyder i chi. Diben y datganiad preifatrwydd hwn yw rhoi i chi, y defnyddiwr, fanylion am sut bydd Croeso Bae Abertawe yn casglu, yn storio ac yn defnyddio’r data personol rydych yn ei roi. Data personol yw gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolion byw adnabyddadwy. Mae’r polisi preifatrwydd hwn wedi’i gynnwys yn ffurfiol yn amodau a thelerau defnydd y wefan hon.

1.1. Datganiad o fwriad

Polisi penodol Croeso Bae Abertawe yw y bydd yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth bresennol ac yn ceisio cydymffurfio ag arfer gorau presennol ynglŷn â phrosesu data personol. Croeso Bae Abertawe yw’r enw a ddefnyddir gan Dîm Twristiaeth Cyngor Dinas a Sir Abertawe.

1.2 Ffurflenni ar-lein a defnyddio data personol

Caiff unrhyw wybodaeth rydych yn ei darparu ar-lein i Croeso Bae Abertawe, e.e. gofyn am lyfryn, cymryd rhan mewn cystadleuaeth neu gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr, ei chadw a’i storio ar ein cronfa ddata. Yn ogystal â defnyddio’r wybodaeth hon i gyflawni ymholiadau a cheisiadau penodol; os rydych wedi dewis derbyn cyfathrebiadau pellach gennym, byddwn yn rhoi’r diweddaraf ynglŷn â newyddion a hyrwyddiadau i chi. Pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol adnabyddadwy i ni, byddwn yn ei defnyddio i roi gwybodaeth i chi am Fae Abertawe (Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr) fel cyrchfan gwyliau os rydych wedi dewis derbyn/cytuno i dderbyn y cyfathrebiad pellach hwn yn unig. Gyda phob e-bost hyrwyddol rydych yn ei dderbyn, bydd cyfle i chi ddatdanysgrifio o’n cronfa ddata. Mae gennych hawl i gael mynediad at unrhyw ddata sy’n ymwneud â chi, ei gywiro, ei newid a’i ddileu. Er mwyn arfer yr hawl hon, cysylltwch â ni ar unwaith.

Lle anfonir negeseuon e-bost trwy dudalen rhestru busnesau, caiff yr holl ymholiadau eu hanfon at dîm Croeso Bae Abertawe a’u hanfon ymlaen yn awtomatig i’r busnesau perthnasol. Oni bai am dderbynnydd trydydd parti’r ymholiad, ni chaiff y data hwn ei drosglwyddo neu ei werthu i unrhyw drydydd partïon eraill. Ni fyddwn yn rhentu, yn gwerthu nac yn prydlesu’r wybodaeth bersonol adnabyddadwy hon i gwmnïau eraill nag unigolion heb eich caniatâd ymlaen llaw.

1.3 Trydydd Partïon

Gall trydydd partïon ddefnyddio cwcis, dyfeisiau olrhain a thechnoleg debyg i gasglu neu dderbyn gwybodaeth o’n gwefan ac o fannau eraill ar y rhyngrwyd a defnyddio’r wybodaeth honno i ddarparu gwasanaethau mesur a hysbysebion a dargedir. Gall defnyddwyr dynnu’n ôl o’r broses gasglu a’r defnydd o’r wybodaeth ar gyfer hysbysebion a dargedir a dod o hyd i fwy o wybodaeth am wasanaethau sy’n defnyddio’r math hwn o hysbysebion yn www.aboutads.info/choices.

Rydym yn mesur gweithgareddau ar sail nifer y gweithrediadau a gyflawnir ac nid ydym yn gwneud unrhyw gais i ddefnyddio data personol adnabyddadwy i nodi gweithrediadau unigolion.

Gan ddefnyddio’r data a gesglir o www.croesobaeabertawe.com, gall cynulleidfaoedd a dargedir ar gyfer hysbysebion gael eu creu ar blatfformau trydydd parti gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) Facebook, Twitter a Google.

1.4 Storio a chywiro data personol

Ni fydd Croeso Bae Abertawe yn cadw data personol yn hwy nag sy’n angenrheidiol, ac mae’r cyngor yn dilyn canllawiau cyfreithiol o ran am ba hyd y cedwir gwybodaeth cyn iddi gael ei dinistrio’n ddiogel. Rhaid i Croeso Bae Abertawe gyflwyno copi o’r data personol y mae’n ei gadw amdanoch chi, ar gais. Os hoffech arfer yr hawl hon, cysylltwch â Thîm Twristiaeth Dinas a Sir Abertawe am fwy o fanylion (ffoniwch 01792 635214 gyda’ch cais neu ysgrifennwch i’r ‘Tîm Twristiaeth, Dinas a Sir Abertawe, Ystafell 153, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE’). Petaech yn dod o hyd i unrhyw anghywirdebau o ran eich gwybodaeth bersonol, rhowch wybod i Ddinas a Sir Abertawe cyn gynted â phosib. Yna bydd Dinas a Sir Abertawe’n cywiro ei gofnodion ac yn rhoi gwybod i unrhyw drydydd partïon y gall yr wybodaeth bersonol fod wedi cael ei throsglwyddo iddynt yn unol â chymal 1.2 uchod.