fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Gwybodaeth am ein Tîm Chwaraeon ac Iechyd
Helpu i greu dinas iachach a mwy actif.

Pwy ydyn ni?

Ni yw Tîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe. Tîm brwdfrydig a deinamig o weithwyr proffesiynol datblygu chwaraeon ac ymarfer corff, sy’n ymrwymedig i hyrwyddo cyfranogaeth gydol oes mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Mae ein tîm yn canolbwyntio ar amrywiaeth o ardaloedd i sicrhau bod pawb yn deall pwysigrwydd bod yn actif a bod gan bawb y cyfle i gymryd rhan.

Rydym yn cefnogi clybiau, ysgolion a thimau lleol i hyrwyddo lles a ffordd o fyw actif ar draws Abertawe. Rydym hefyd yn cynnal ystod o sesiynau wythnosol i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon waeth beth fo’u hoedran neu brofiad.

P’un a ydych yn newydd i chwaraeon neu’n athletwr, mae gan chwaraeon ac iechyd ddigon i’w gynnig!

Ein Sesiynau Wythnosol

  • Gall yr holl sesiynau newid• Dawns, Iechyd a Ffitrwydd, dydd Llun, Forge Fach (Clydach), 10.30am-12.30pm. Dosbarth difyr i wella cydbwysedd, cryfder, ystwythder a hyblygrwydd i gefnogi hirhoedledd ac atal cwympiadau. Yn dilyn y wers bydd cyfle am baned a sgwrs. Ffoniwch Vic ar 07795295409 am ragor o wybodaeth ac i archebu lle.
    • Cerdded Nordig 16+ oed, dydd Mawrth, Parc Cwmdoncyn, 10.00am – 10.45am.
    • Beicio gyda Chydymaith, Dydd Mercher, Clwb Rygbi Dyfnant, 10.00am – 12.00pm. Rhaid archebu lle yn uniongyrchol drwy BikeAbility Wales ar 07584 044284.
    • Ffitrwydd Ysgafn i Oedolion Hŷn, dydd Mercher, Canolfan Gymunedol Parc Sgeti, 10.00am – 10.45am.
    • Pilates 16+, dydd Mercher, Neuadd Llewelyn, 10.30am – 11.15 am.
    • T’ai Chi 16+, dydd Sadwrn, Canolfan Gymunedol San Phillip, 10.00am – 11.00am

Mae gweithgareddau newydd yn cael eu lansio’n rheolaidd; cymerwch gip ar y rhestr lawn o weithgareddau a chadwch le yn TicketSource.

Archebwch nawr!

Amserlen yn ystod y Gwyliau

Bob gwyliau mae gennym amserlen o sesiynau rhad ac am ddim a chost isel ar draws Abertawe. Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn y diweddaraf am sesiynau gwyliau.

Yr hyn rydym yn ei gynnig

Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)

Nod y cynllun yw annog unigolion nad ydynt yn actif ar hyn o bryd i gymryd rhan mewn chwaraeon fel rhan o raglen ataliol neu adsefydlu. Mae’r cynllun yn gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol yn Abertawe gan gynnwys meddygon teulu lleol, nyrsys meddygfeydd, deietegwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys diabetig, seicolegwyr a therapyddion galwedigaethol.

60+

Ydych chi dros 60 oed ac eisiau bod yn actif? Mae gennym yr ateb i chi! Rydym yma i helpu i’ch ysgogi a’ch cefnogi ar eich taith i ddod yn actif. Rydym am ehangu ein rhaglen 60+ – os oes gennych unrhyw awgrymiadau, ffoniwch ni ar 01792 635452 neu e-bostiwch ChwaraeonacIechyd@abertawe.gov.uk

Ceir sawl ffurf o ymarfer corff ysgafn dyddiol fel cerdded ar gyflymder araf, codi i wneud paned o de a defnyddio sugnwr llwch i lanhau. Gall wneud ymarfer corff fel garddio, ymarferion gan ddefnyddio pwysau eich corff eich hun neu gario bagiau siopa ddwywaith yr wythnos helpu i wella cryfder, cydbwysedd a hyblygrwydd. (dolen i dudalen oedolion hŷn y GIG?)

ParkLives

Mae ParkLives yn cynnig gweithgareddau hwyliog mewn parciau, gan annog pobl i wneud ffrindiau newydd a mwynhau’r mannau gwyrdd yn eu cymuned leol.

O feiciau cydbwysedd a sesiynau dros dro i droeon iechyd yn y gymuned, yn ogystal â T’ai Chi, cerdded Nordig a ffitrwydd effaith isel, mae amrywiaeth o sesiynau ParkLives sy’n addas i bawb. Mae’r gweithgareddau, sydd wedi’u hamserlenni, fel arfer yn para awr a chânt eu harwain gan arweinwyr sesiwn cefnogol a chyfeillgar sydd wedi’u hyfforddi a gwirfoddolwyr o’r gymuned leol.

Us Girls

Cynhelir ein gwersylloedd Us Girls poblogaidd iawn yn ystod y gwyliau ysgol mewn partneriaeth â Freedom Leisure. Maent yn gyfle i ferched rhwng 8 a 14 oed ddod ynghyd mewn amgylchedd difyr a chyfeillgar heb feirniadaeth i roi cynnig ar amrywiaeth o gampau a gweithgareddau, gan gynnwys dawns, pêl-osgoi, nofio a mwy!

Ynghyd â rhoi cynnig ar gampau a gweithgareddau newydd, bydd y merched yn cael cyfle i gwrdd â ffrindiau newydd a thrafod pynciau sy’n berthnasol iddyn nhw, fel ‘rhwystrau i chwaraeon’ a ‘phwysigrwydd bod yn actif’. Mae’r tîm Chwaraeon ac Iechyd yn ymroddedig i sicrhau bod yr holl ferched sy’n mynychu’r gwersyll Us Girls yn cael croeso cynnes, yn cael hwyl ac yn bwysicaf oll yn cael cyfle i fagu hyder a chredu ynddyn nhw eu hunain i roi cynnig ar bethau cwbl newydd.

GemauStryd

Mae ein gwersyll GemauStryd hynod boblogaidd yn cynnig amgylchedd difyr, cyfeillgar a heb feirniadaeth i fechgyn a merched rhwng 8 a 14 oed.

Ar y diwrnod bydd pobl ifanc yn cael cyfle i roi cynnig ar sesiynau ‘Nerf’, pêl-osgoi, aml-gampau, nofio, offer chwyddadwy a mwy! Mae’n sicr o fod yn ddiwrnod llawn hwyl.

Mae lleoedd yn llenwi’n gyflym ar gyfer ein gwersylloedd chwaraeon felly sicrhewch eich bod yn cadw’ch lle cyn gynted â phosib drwy ffonio Canolfan Hamdden Freedom Leisure – Pen-lan ar (01792) 588079 neu ewch ar-lein.

Chwaraeon i’r anabl

Mae gennym glybiau anabledd a chlybiau prif ffrwd cynhwysol sy’n cwmpasu’r rhan fwyaf o’r prif gampau, ond os oes unrhyw beth y mae gennych ddiddordeb mewn rhoi cynnig arno nad yw wedi’i restru isod, yna ffoniwch ni ar 01792 635218 neu e-bostiwch Chwaraeon ac Iechyd Abertawe. Darganfyddwch ragor ar y dudalen Chwaraeon i’r Anabl

Chwaraeon Cymunedol

Byddai Tîm Chwaraeon Cymunedol Abertawe’n hoffi gweld pob plentyn yn dwlu ar chwaraeon am oes. Darganfyddwch ragor am Lysgenhadon Ifanc, Llythrennedd Corfforol a Phobl Ifanc Actif.

Cerdded

Mae cynifer o lwybrau a lleoedd cyffrous i’w harchwilio ar draws Abertawe a Gŵyr. I ddarganfod mwy cliciwch yma.

Mae’r tîm Datblygu Cerdded wedi hyfforddi dros 250 o Arweinwyr Cerdded Iechyd ac wedi helpu i ddechrau 35 o droeon iechyd cyhoeddus yn Abertawe, ynghyd â mwy gyda’r GIG a sefydliadau proffesiynol eraill. Mae’r troeon ar gael i’w gweld yn www.abertawe.gov.uk/iachgerdded. Os ydych chi am ddechrau tro iechyd neu gael eich hyfforddi cysylltwch â John.Ashley@abertawe.gov.uk.

Mae llawer o gerddwyr iechyd yn mynd ymlaen i ymuno â’r grwpiau cerdded hamdden ar draws Abertawe a Gŵyr.

Mae cynifer o lwybrau a lleoedd cyffrous i’w harchwilio. Ewch i www.abertawe.gov.uk/cerdded i weld rhestr o’r grwpiau ac i ddod o hyd i deithiau cerdded hunanarweinedig ar gyfer pob gallu y gellir eu lawrlwytho.

Ydych chi’n awyddus i wybod mwy?

Mae mwy o wybodaeth am yr hyn y mae’r gwasanaeth yn ei gynnig a sut y gallwch gymryd rhan – cymerwch gip arni!

Dewch i gymryd rhan…

Rydym yn gobeithio eich gweld chi’n fuan yn un o’n gweithgareddau, ac os nad ydych chi eisoes yn gwneud, sicrhewch eich bod yn ein dilyn ni ar Facebook a Twitter a chofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio Chwaraeon ac Iechyd i fod y cyntaf i glywed ein newyddion ac i gael rhagor o wybodaeth amdanom.