fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Ymunwch â’n her ‘Ditectifs Carreg Drws’ i ailddarganfod beth sydd ar eich carreg drws!

Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn cyhoeddi cyfres o ‘ffeiliau achos’ a fydd yn cynnwys lleoedd rydym wedi anghofio amdanynt wrth i ni gerdded heibio iddynt bob dydd, a rhai o’r bobl sydd wedi dylanwadu ar fywyd yn Abertawe.

Byddwn hefyd yn eich herio i edrych eto ar ein hardaloedd lleol trwy weithgarwch creadigol neu oherwydd chwilfrydedd – rydym yn siŵr y byddwch chi’n dechrau gweld ein cymdogaethau mewn ffordd wahanol, gan ddod o hyd i brydferthwch pethau cyffredin a thrwy ddefnyddio adnoddau ar-lein i ddatgelu hanesion cudd.

 

At sylw pobl ifanc yn unig

Cadwch lygad am ein ffeiliau achos, gan gynnwys ein harch-dditectif ‘Sherlock Jo Joio’ – maent wedi’u creu yn arbennig ar gyfer plant ifanc a chwilfrydig.

 

Palwch ar-lein!

Wyddech chi roedd Lisbon yn Abertawe? Rydym ni’n gwybod mai Lisbon yw prif ddinas Portiwgal, ond mae Lisbon hefyd yn ardal yn Abertawe. Rhowch gynnig ar chwilio am ‘Lisbon Abertawe’ ar-lein, a bydd y canlyniadau’n eich synnu!

Palwch ar-lein i ddarganfod rhagor am y bobl a’r lleoedd hanesyddol yn eich ardal leol trwy ddefnyddio’r adnoddau ar-lein defnyddiol hyn.

Dewch i ailddarganfod Abertawe trwy ffeiliau achos ein Ditectifs Carreg Drws:

Adnoddau Ar-lein Defnyddiol

Cyngor Abertawe

 

Cymdeithasau hanesyddol yn Abertawe

Grwpiau Facebook

 

Blogwyr lleol

Gwefannau cenedlaethol