fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy

Os ydych chi’n byw ym Mhontarddulais, rydych chi’n ddigon ffodus i gael Llwybr Treftadaeth Pontarddulais ar garreg eich drws – llwybr cerdded cylchol hawdd 4 milltir, sy’n eich tywys trwy bentref sy’n llawn straeon.

Mae’r llwybr yn dod i ben wrth y ddwy garreg goffa a godwyd i nodi Terfysgoedd Beca, ac mae’n cynnwys rhagor o wybodaeth am arwyr y frwydr honno, effaith y dref ar feirdd enwog fel Dylan ac Edward Thomas ac, ac mae’n cynnwys hen safle Eglwys Teilo Sant, neu Llandeilo Tal-y-bont.

Rhagor o wybodaeth am Lwybr Treftadaeth Pontarddulais

‘yr hen eglwys ar y morfa’

Hanner ffordd ar hyd y llwybr, fe welwch forfa a oedd yn rhan o lwybr prysur yr Oesoedd Canol ar draws de Cymru.

Mae’r eglwys a oedd yn arfer sefyll yma ac sy’n dyddio o’r 12fed ganrif bellach yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, ond gallwch gerdded o gwmpas y fynwent o hyd.

 

 

Cysegrwyd yr eglwys i Teilo Sant, a fu’n fyw yn yr un cyfnod â Dewi Sant ac a allai fod wedi cael ei ddewis i fod yn nawddsant Cymru. Yn yr Oesoedd Canol, ymwelodd llawer o bererinion â’r eglwys wrth iddynt deithio i Dŷ Ddewi yn Sir Benfro.

Wrth i chi gerdded o amgylch y fynwent, cadwch lygad am garreg fedd Gwilym Hopcin, a oedd yn uchel ei barch ac a allai fod wedi cymryd rhan yn Nherfysgoedd Beca.

 

 

 

 

Adleoli i Sain Ffagan

Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yn yr eglwys ym 1970, ac yn yr 1980au fe’i cofrestrwyd fel heneb gan Cadw. Gan nad oedd modd achub yr eglwys a oedd yn dadfeilio ar ei safle gwreiddiol, ym 1984 fe’i datgymalwyd yn ofalus, carreg wrth garreg, a’i hailgodi yn Sain Ffagan.

Wrth i’r broses o ddatgymalu’r eglwys ddechrau, darganfuwyd dau baentiad wal anhygoel o’r 15fed a’r 16eg ganrif, ynghyd â nifer o ardaloedd o batrymau addurnol. Cafodd y rhain i gyd eu cofnodi, eu tynnu i lawr a’u cadw’n ofalus.

Ailagorodd yr eglwys i’r cyhoedd yn Sain Ffagan yn 2007 ac mae wedi’i hadnewyddu fel y gallai fod wedi ymddangos tua 1530, ynghyd ag allorau, cerfiadau a phaentiadau llachar ar bob wal.

Rhagor o wybodaeth am Eglwys Teilo Sant a Sain Ffagan

Darllenwch ragor am yr adleoli