fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Preswylydd o Abertawe a gyflawnodd gamp hanesyddol mewn awyren…

Fel llawer o leoedd, mae’n ymddangos bod diwylliant cyfoethog Abertawe bellach yn cael ei anghofio wrth i bobl gerdded heibio adeiladau heb feddwl ddwywaith am hanesion yr adeiladau hynny.

Er enghraifft, faint ohonoch sydd wedi cerdded heibio Belgrave Court yn Uplands? Efallai eich bod chi, ac wedi edmygu ei bensaernïaeth; mae’n adeilad hyfryd. Er, ydych chi wedi sylwi ar y plac glas er cof am Syr Arthur Whitten Brown?

 

Cyflawnodd Arthur Whitten Brown a John William Alcock yr hediad trawsatlantig di-stop cyntaf erioed ym mis Mehefin 1919. Cyflawnodd y pâr eu hediad cyntaf, o Newfoundland i Sir Galway i ennill y wobr o £10,000 a oedd yn cael ei gynnig gan y Daily Mail a’i chyflwyno gan Winston Churchill, Ysgrifennydd Gwladol yr Awyr.

Yn y cyfnod awyrennu cynnar, roedd hedfan yn wahanol iawn ac yn ffordd go iawn o brofi dyn a’i beiriant. Er enghraifft, roedd Brown yn dibynnu ar ei secstant a’r sêr i ddod o hyd i’r ffordd. Fodd bynnag, roedd niwl trwchus yn broblem i’r pâr, a heb unrhyw gyfarpar geirosgopig, collodd Alcock reolaeth dros yr awyren ddwywaith, a bu bron i’r awyren fwrw’r môr.

Hedfanodd Alcock a Brown mewn awyren Vickers Vimy, a addaswyd ar gyfer yr hediad a dorrodd pob record. Y Vimy oedd yr awyren fomio ddeufotor gyntaf ac fe’i hadeiladwyd gan Vickers ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyma’r awyren gyntaf o’i bath i’w defnyddio mewn treialon swyddogol ym mis Ionawr 1918. Fodd bynnag, byddai’r Cadoediad ym mis Tachwedd 1918 yn sicrhau na fyddai’r Vimy yn rhan o’r rhyfel.

Embed from Getty Images

Roedd seddi peilot y Vickers Vimy yn agored, a byddai’r glaw a’r eira a syrthiai arnynt wedi bod yn ddigon heriol, ond doedd eu siwtiau gwresogi trydanol ddim yn gweithio chwaith, gan wneud y cyfan yn waeth. Er hynny, roedd Alcock a Brown yn benderfynol a llwyddon nhw i ddilyn eu llwybr, gan lanio yng Nghors Derrygilmlagh, Sir Galway, ar fore’r 15fed o Fehefin 1919. Fel arwyr cenedlaethol yn llygaid y cyhoedd, cawsant eu hurddo’n farchogion gan y Brenin Siôr V, ychydig ddiwrnodau’n unig ar ôl eu hediad di-stop ar draws Môr Iwerydd.

Ar ôl y rhyfel, dangosodd y Vickers Vimy ei photensial llawn gyda sawl ymgais i dorri’r record am hediadau pellter hir. Yn ogystal â chael ei dewis gan Alcock a Brown, ym 1919 dewisodd Ross a Keith Macpherson-Smith yr awyren hon hefyd, gan hedfan o Loegr i Awstralia mewn Vimy.

Bu farw Alcock wrth hedfan Vickers Viking i Sioe Awyr Paris ym mis Rhagfyr 1919. Aeth Brown ymlaen i weithio i gwmni Metropolitan-Vickers. Ymgartrefodd yn Abertawe, a gadawodd ei farc ar y ddinas drwy sefydlu Sgwadron Rhif 215 y Corfflu Hyfforddiant Awyr, sy’n parhau i ddarparu gweithgareddau sy’n cynnig her, cyffro ac antur i gadlanciau ifanc. Roedd iechyd Brown wedi dirywio erbyn 1948, gan olygu y bu‘n rhaid iddo gyflawni  dyletswyddau ysgafn fel rheolwr cyffredinol swyddfeydd Metropolitan-Vickers ar Wind Street. Bu farw yn ei gwsg yn Belgrave Court, ar 4 Hydref 1948.