fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Traphont rheilffordd yw Traphont Glandŵr dros Gwm Tawe ac afon Tawe yng Nglandŵr. Mae’r groesfan hon yn y cwm yn darparu golygfa banoramig o Landŵr, Mynydd Cilfái, Parc Menter Abertawe a Stadiwm Liberty.

Isambard Kingdom Brunel

Adeiladwyd y draphont wreiddiol ar draws Cwm Tawe ym 1847-50, ac fe’i dyluniwyd gan Isambard Kingdom Brunel, y’i hystyriwyd yn un o’r ‘ffigyrau mwyaf dyfeisgar a chynhyrchiol yn hanes peirianneg’. Roedd yn cynnwys cyfanswm o 37 o fwâu a 5 piler cerrig nadd. Roedd rhychwant y bwâu hyn yn amrywio’n sylweddol mewn mannau gyda’r un mwyaf yn  33.5 metr, a chynhwyswyd dau fwa 22.3 metr i groesi’r gamlas a ffordd, ac roedd dau fwa 15.2 metr yn croesi’r ffyrdd eraill. Roedd y bwâu eraill rhwng 11 a 12.8 metr.

 

Roedd rhan uchaf y draphont wedi’i gwneud yn bennaf o bren gyda gosodiadau a phinnau haearn gyr. Adeiladwyd y dec gan ddefnyddio pren trwchus a gosodwyd y ffordd haearn sef y cledrau ar ei ben, wedi’u gosod yn sownd wrth ddarnau hydredol o bren. Agorodd i draffig ym mis Mehefin 1850 gyda’r trên cyntaf rhwng Cas-gwent ag Abertawe. Fe gostiodd £28,720 i’w hadeiladu.

Ychydig dros dri deg chwech o flynyddoedd yn ddiweddarach, rhwng Medi 1886 a Hydref 1889, addaswyd y draphont am y tro cyntaf. Lleihawyd ei hyd drwy argloddio’r ddynesfa ddwyreiniol, gan ddefnyddio slag o waith Copr yr Hafod. Disodlwyd bwa’r afon gan un ategrwym dur ac adeiladwyd y gweddill o haearn gyr. Cost y gwaith hwn oedd £30,000.

Gyda’i gilydd, mae’r symiau hyn gyfwerth â £7 miliwn yn 2020.

 

Ym 1978-1979 gosododd British Rail drawstiau dur yn lle hytrawstiau haearn gyr y dec. Yr unig ran o draphont Brunel sy’n goroesi yw’r pum piler cerrig nadd gwreiddiol i’r gorllewin o’r afon, a phob un â dau agoriad bwaog, sy’n cynnal y bont lle mae’n croesi’r afon.

Mae bellach yn darparu cyswllt rhwng canol dinas Abertawe a Llinell Gorllewin Cymru i Brif Linell De Cymru. O ystyried bod y draphont wedi bod yn borth i Abertawe a gorllewin Cymru am dros 170 o flynyddoedd, ystyriwyd bod hyn yn arian wedi’i wario’n dda iawn.

Jack Jones

Mae paentiad enwog o Draphont Glandŵr, gan yr artist o Abertawe, Jack Jones, a aned ym 1922 yn ystod y dirwasgiad Mawr (fe’i ganed yn Aberdyberthi Street, yr Hafod). Ar ôl gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd a chychwyn ar yrfa fel athro (Pennaeth Saesneg yn Ysgol Ramadeg Barnes), dechreuodd baentio ym 1953, a daeth yn artist amser llawn ym 1972.

Addysgodd Jack Jones ei hun a daeth llawer o’i ysbrydoliaeth o’i blentyndod, yng nghalon Abertawe ddiwydiannol gyda’i chymeriadau, ei thirweddau a’i chymuned gynnes. Fe’i disgrifir gan rai yn ‘Lowry Cymru’. Cynhaliwyd arddangosfa fawr o’i waith, gan gynnwys y dehongliad hwn o draphont Brunel, yn Oriel Gelf Glynn Vivian ym 1993, ychydig ar ôl ei farwolaeth.

 

Beth yw’ch barn am ddehongliad Jack Jones o draphont Glandŵr?

Os dyma’ch ardal leol chi, beth am ddod yn dditectif carreg drws a darganfod rhagor o dirnodau lleol a’u rhannu â ni…beth am dynnu llun o’r draphont fel y mae hi heddiw yn 2021, a sut mae’r dirwedd wedi newid; byddem wrth ein boddau’n eu gweld.

Llun trwy garedigrwydd Jack Jones, Traphont Glandŵr: Dinas a Sir Abertawe: Casgliad Oriel Gelf Glynn Vivian.

Ffotograff o Isambard Kingdom Brunel yn sefyll o flaen cadwynau lansio’r Great Eastern a dynnwyd gan Robert Howlett. Bellach yng nghasgliad yr Amgueddfa Gelf Fetropolitan.