Fe’i rhoddwyd i Abertawe yn dilyn marwolaeth Adelina Patti, a oedd yn dwlu ar yr ardal ac yr oedd y castell yn gartref iddi.
Ganed Adela Juana Maria ar 10 Chwefror 1843 ym Madrid, yn blentyn ieuengaf y cantorion opera Caterina a Salvatore Patti.
Symudodd y teulu i UDA ym 1846 pan oedd Adelina yn dair blwydd oed.
Treuliodd 63 o flynyddoedd yn cyffroi’r byd cerddoriaeth, gan roi ei pherfformiad cyhoeddus cyntaf pan oedd yn 8 oed a’i pherfformiad olaf pan oedd yn 71 mlwydd oed!
Ar anterth ei gyrfa roedd hi’n gallu gofyn am fwy na $5,000 am berfformiad yn ogystal â chanran o’r arian a wnaed.
Roedd rhai o’i chefnogwyr enwocaf yn cynnwys y Frenhines Victoria, Charles Dickens, Napoleon II, Tywysog Cymru, Tolstoy, Rossini a George Bernard Shaw.
Cynhaliwyd ei phriodas gyntaf â Marquis de Caux (a oedd yn 17 o flynyddoedd yn hŷn na hi) ar 29 Gorffennaf 1868. Roedd yntau’n dioddef o broblemau gyda’r ysgyfaint ac er ei bod hi’n gofalu amdano yn ystod ei salwch, datblygodd pellter rhyngddynt a daeth Patti o hyd i gysur ym mreichiau ei chydweithiwr Ernest Nicolini.
Roedd sïon am eu perthynas wedi dinistrio enw da a bywyd cymdeithasol Adelina, ond ychydig iawn o effaith gafodd hyn ar ei gyrfa, ac os rhywbeth, cynyddodd gwerthiant tocynnau ar gyfer ei chyngherddau’n aruthrol! Llwyddodd i gael ysgariad o’r diwedd ym 1885. Yn y cyfamser, roedd Patti wedi prynu Craig y Nos ym 1878. Talodd £3,500 am yr adeilad gwreiddiol ac 17 erw, ond prynodd gwerth £10,000 o’r tir o’i amgylch yn fuan wedi hynny. Priododd â Nicolini yn Ystradgynlais ar 10 Mehefin 1886. Ond roedd e’n dioddef o broblemau gyda’i afu a’i arennau, ac roedd Adelina wrth ei ochr pan fu farw yn Pau, Ffrainc ar 18 Ionawr 1898.
Erbyn mis Tachwedd yn yr un flwyddyn, cyhoeddodd Adelina y byddai’n priodi’r Barwn Swedaidd, Rolf Cederström. Cynhaliwyd y briodas yn Eglwys Gatholig Rufeinig St Michael, Aberhonddu ym mis Ionawr 199. Roedd Adelina’n 56 oed a’r Barwn yn 28 oed! Yn dilyn y briodas, cafwyd nifer o newidiadau ym mywyd preifat a chyhoeddus Adelina. Cyfyngodd ei pherfformiadau a daeth y partïon enwog yng Nghraig y Nos i ben. Roedd y Barwn wedi lleihau nifer y staff yng Nghraig y Nos ac wedi gwahanu’i wraig oddi wrth llawer o’i ffrindiau agosaf.
Lluniodd Adelina ei hewyllys derfynol ym 1917, gan adael bron i bopeth i’w gŵr – gan gynnwys Craig y Nos Roedd ganddi broblemau â’r galon, a bu farw ar 27 Medi 1919. Cafodd ei chladdu ym Mynwent Pére Lachaise ym Mharis.
Craig y Nos oedd hafan Adelina a gwariodd llawer o arian ar welliannau cartref. Ychwanegodd adain ar gyfer y gweision a thŵr cloc, llenwyd yr afon â physgod a gosodwyd peiriant goleuadau trydan ar y tir – yn ôl y sôn, Craig y Nos oedd y breswylfa breifat gyntaf yn y DU i gael ei phweru gan drydan.
Adeiladodd berthynas â’i chymdogion Cymreig, a bu’n hael iawn i’r bobl yn yr ardal gyfagos; cyfeiriwyd ati’n gynnes fel ‘Boneddiges y Castell’, ‘Y Fenyw Hael’ neu ‘Frenhines y Calonnau’. Perfformiodd mewn nifer o gyngherddau elusennol yn Abertawe ac Aberhonddu ac ad-dalwyd ei chariad at yr ardal pan addurnodd miloedd o drigolion lleol eu pentrefi ym 1886 er mwyn dathlu ei phriodas â Nicolini.
Ym 1891, agorwyd Theatr Patti yn swyddogol yng Nghraig y Nos. Agorodd Adelina Dwnnel Hafren hefyd ym 1887 a alluogodd i’r trên uniongyrchol rhwng Llundain a Chastell-nedd weithredu. Ym mis Mai 1897 fe’i gwnaed yn Fwrdeisiwr Anrhydeddus Aberhonddu a rhoddwyd Rhyddid y Fwrdeistref iddi. Enwyd ward yn Ysbyty Abertawe ar ei hôl, ac ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn cymerodd ran yn agoriad Theatr y Grand y ddinas.
Yn ystod y blynyddoedd cyn y rhyfel, roedd Craig y Nos yn angor iddi – treuliodd o leiaf chwe mis y flwyddyn yn ei ‘chastell’. Ar 20 Mehefin 1912 dyfarnwyd Rhyddid er Anrhydedd Dinas Abertawe iddi, a hi oedd y fenyw gyntaf yn y DU i gael ei hanrhydeddu gan ddwy fwrdeistref.
Yn dilyn marwolaeth Adelina, ym 1920 dodwyd Craig y Nos ar werth. Roedd yr Ardd Aeaf wedi’i haddo i Abertawe, ac felly cafodd ei datgysylltu a’i symud i’r ddinas, ac mae hi yna o hyd fel Pafiliwn Patti. Fe’i hagorwyd yn swyddogol ar ôl ei chodi ym Mharc Victoria ar 5 Mehefin 1920 – a chostiodd oddeutu £4,000 i’w throsglwyddo.
Prynodd Cymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru adeilad Craig y Nos a’r 48 o erwau o’i gwmpas am £19,000 ym 1921, gan sefydlu sanatoriwm twbercwlosis. Yn y 1950au, daeth yn ysbyty henoed gan barhau felly tan 1986. Mae’r tir bellach ar agor i’r cyhoedd fel Parc Gwledig a gynhelir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Erbyn hyn, mae’r castell dan berchnogaeth breifat a gellir ei logi ar gyfer amrywiaeth o achlysuron a phriodasau.