Cwm Afan a Chwm Nedd
Dychmygwch gefn gwlad toreithiog, gwelltog, tirlun dramatig gyda rhaeadrau hwnt ac yma – a rhai o’r llwybrau beicio mynydd llawn adrenalin gorau yn y byd! (Peidiwch â chymryd ein gair ni – mae Parc Coedwig Afan yn un o’r ‘Deg lle gorau i feicio yn y byd’ yn ôl ‘What Mountain Bike’.)
Gelwir hi’n ‘Wlad y Sgydau’, a chyda rheswm da. Mae gan Gwm Nedd rai o’r rhaeadrau gorau yng Nghymru wedi’u cuddio mewn ceunentydd gwyrdd. Mae Sgwd yr Eira (sy’n golygu ‘eira’n cwympo’), yn sgwd y gellir cerdded y tu ôl iddi heb wlychu’n ormodol! Dewch â’ch esgidiau cerdded a’ch ymdeimlad o antur – gallech feddwl eich bod ar set ffilm ‘The Hobbit’!
Gallwch ddarganfod sut y defnyddiwyd y pŵer dŵr hwn yng Ngwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle gallwch weld olwyn ddŵr fwyaf Ewrop ar waith. Mae un fel hon wedi bod ar waith yn Aberdulais ers 1584!
I gael profiad beicio mynydd anhygoel, ewch i Barc Coedwig Afan – mae’r llwybrau beicio mynydd hyn a adeiladwyd at y diben yn nefoedd oddi ar y ffordd i ddechreuwyr a’r rhai hynod brofiadol. Am daith hamddenol trwy’r goedwig, rhowch gynnig ar y Llwybr i Ddechreuwyr neu wynebwch her ac ewch ar lwybr anhygoel Blade.
Amser am rywbeth mwy hamddenol? Mae gan Barc Margam erwau o barcdir i ymlacio ynddo gan gynnwys y gerddi addurnol, parc ceirw a hyd yn oed rheilffordd gul. Reit, i chi sy’n hoffi gwefr, dydych chi byth yn bell o’ch dos nesaf o adrenalin – bydd Go Ape Parc Margam yn mynd â chi trwy frig y coed am ddos iach o antur ar wifren uchel!
Ar ôl dal eich anadl, ewch i Lan Môr Aberafan ac ewch ar fwrdd syrffio i gwblhau’ch antur o weithgareddau. Os oes gwell gennych weld eraill yn mynd i’r dŵr, mae Aberafan hefyd yn lle da i fynd am dro ar hyd y prom, hedfan barcut neu ymlacio gyda hufen iâ.
Pethau i’w gwneud a lleoedd i aros:
Gwlad y Sgydau wedi’ch temtio?
O bryd i’w gilydd, rydyn ni’n anfon e-byst â gwybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr a’r diweddaraf am ddigwyddiadau ym Mae Abertawe. Rydyn ni fel arfer yn cynnwys llun pert i chi gael cip arno fe hefyd. Os hoffech chi gael y diweddaraf, rhowch eich enw a’ch cyfeiriad e-bost yn y ffurflen isod.