fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Gwybodaeth Deithio: Cyrraedd Bae Abertawe

Mae Bae Abertawe yn ne-orllewin Cymru, yng ngorllewin y Deyrnas Unedig, ac mae’n hawdd ei gyrraedd mewn car, trên, coets, llong neu awyren. 3½ awr yn unig o Lundain mewn car, a 2¾ awr o Birmingham, mae’n lle delfrydol i ddianc iddo am wyliau byr neu hwy mewn amgylchedd tawel. Yn ogystal, mae gwasanaethau trên a bws cyflym ac aml yn cysylltu dinasoedd mwyaf y DU â Bae Abertawe. Os ydych yn teithio o rywle pellach, mae’n hawdd ein cyrraedd mewn llong neu ar awyren – dewiswch opsiwn isod am fwy o wybodaeth am bob dull trafnidiaeth.

Teithio mewn Car

Mae defnyddio traffordd yr M4 o gyfeiriad y dwyrain yn rhoi mynediad uniongyrchol i chi i bob rhan o Fae Abertawe.

  • Ar gyfer Port Talbot a Pharc Coedwig Afan, gadewch y draffordd wrth gyffordd 40.
  • Ar gyfer dinas Abertawe, y Mwmbwls a de Gŵyr, gadewch y draffordd wrth gyffordd 42.
  • Ar gyfer Castell-nedd a Chwm Nedd, gadewch y draffordd wrth gyffordd 43.
  • Ar gyfer Cwm Tawe a gogledd Abertawe, gadewch y draffordd wrth gyffordd 46.
  • Ar gyfer gogledd Gŵyr, gadewch y draffordd wrth gyffordd 47.
  • Os ydych yn dod ar yr M4 o borthladdoedd fferi a chyfeiriad y gorllewin, gadewch y draffordd wrth gyffordd 47 ar gyfer Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr; gadewch wrth
  • gyffordd 43 ar gyfer Castell-nedd a Chwm Nedd; gadewch wrth gyffordd 41 ar gyfer Port Talbot a Pharc Coedwig Afan.

Parcio a Theithio Abertawe

I osgoi problemau parcio yn Abertawe, efallai yr hoffech ddefnyddio un o’r ddau safle Parcio a Theithio sydd ar gyrion y ddinas:

  • Ffordd Fabian: gadewch yr M4 wrth gyffordd 42 yna dilynwch yr A483 (1.5 milltir o ganol y ddinas)
  • Glandŵr: gadewch yr M4 wrth gyffordd 45 yna dilynwch yr A4067 (1.5 milltir o ganol y ddinas)
  • Yn y ddau safle Parcio a Theithio, mae’n costio £2.50 yn unig am gerbyd a hyd at 5 person.
  • *Gostyngiad* Gall defnyddwyr y cyfleusterau Parcio a Theithio brynu tocyn ‘ychwanegol’ am £1.50 y gellir ei ddefnyddio ar gyfer teithiau bws drwy’r dydd (gwasanaethau First Cymru – talu ar y bws) o gwmpas Abertawe a’r Mwmbwls. Gall hyd at 5 person barcio a theithio ymlaen i’r Mwmbwls am 80c yn unig yr un!

Teithio i Fae Abertawe ar Drên

Teithio ar y trên yn y DU

Mae gwasanaethau trên cyflym ac aml yn cysylltu bob rhan o’r DU â Bae Abertawe, naill ai’n uniongyrchol neu gydag un newid syml. Mae trenau’n teithio’n aml o orsafoedd Paddington Llundain, Parcffordd Bryste, Caerdydd, Casnewydd, Henffordd, yr Amwythig, Crewe a Manceinion i ardal Bae Abertawe, a cheir cysylltiadau da o ganolbarth, gogledd-ddwyrain, de a de-orllewin Lloegr yng ngorsaf Parcffordd Bryste. I deithwyr sy’n cyrraedd mewn awyren, ceir cysylltiadau rheilffordd/awyr cyflym â Bae Abertawe o feysydd awyr Llundain (Gatwick a Heathrow), Bryste a Chaerdydd. Gallwch hefyd deithio ar Reilffordd Canol Cymru, â’i golygfeydd hardd, yn syth o’r Amwythig i Abertawe. I gael amseroedd trên a gwybodaeth, ffoniwch linell gymorth National Rail ar 08457 48 49 50 neu ewch i www.nationalrail.co.uk

Teithio ar drên o dir mawr Ewrop

Mae trenau aml Eurostar yn cysylltu Paris, Lille a Brwsel yn uniongyrchol â Gorsaf Drenau Ryngwladol St Pancras, Llundain yna, drwy ddefnyddio’r trenau tanddaearol neu dacsi i gyrraedd Gorsaf Paddington Llundain, gallwch deithio ymlaen i Fae Abertawe. Mae trên Eurostar yn teithio’n aml rhwng 0600 a 2100 bob dydd ac mae ar gyfer teithwyr ar droed yn unig.

Teithio ar drên o Weriniaeth Iwerddon

Mae trenau i Abertawe’n cysylltu â theithiau dydd a nos Stena Line o Rosslare yn Abergwaun.
Drwy drenau i Gaerdydd (gyda gwasanaethau ymlaen i Abertawe), gallwch gysylltu â Stena Line ac Irish Ferries yng Nghaergybi.

Teithio ymlaen i Benrhyn Gŵyr, y Mwmbwls a’r Cymoedd

Gallwch brynu tocyn bws ar gyfer teithiau pellach o orsaf eich cyrchfan pan fyddwch yn prynu eich tocyn trên ym mhrif orsafoedd National Rail. Gallwch ddefnyddio tocynnau Plus Bus ar gyfer teithio diderfyn am ddiwrnod ar fws yn ninas Abertawe, y Mwmblws, Castell-nedd neu Bort Talbot a’r Cymoedd. Maent yn costio £2.50*. Gellir defnyddio tocynnau Archwilio Gŵyr ar gyfer teithio diderfyn ar fws ym mhenrhyn Gŵyr, y Mwmbwls ac Abertawe am £5.40** (diwrnod) neu £13.00** (tridiau) yn unig. Yn Abertawe, mae bysus rheolaidd y Metro yn cysylltu’r gorsafoedd trenau a bysus ar gyfer cysylltiadau â phob pwynt arall.

*prisiau adeg Pasg 2016; gallant newid ** prisiau o 15 Mai 2016; prisiau rhatach cyn mis Mai


Teithio i Fae Abertawe ar fws a choets

Mae gwasanaethau coets rheolaidd i Fae Abertawe o bob cwr o’r DU, naill ai’n uniongyrchol neu gydag un newid rhwydd.

Mae coetsis y National Express yn teithio’n uniongyrchol i Abertawe a Phort Talbot o Ganol Llundain, meysydd awyr Gatwick a Heathrow, gorllewin a de Swydd Efrog, gorllewin canolbarth Lloegr, Bryste a Chaerdydd.

Mae’r Megabus yn teithio’n uniongyrchol i Abertawe o Lundain, Bryste a Birmingham. Mae gwasanaeth dyddiol uniongyrchol o Rosslare i Abertawe hefyd.

Mae gwasanaethFirst Cymru X10 yn teithio’n uniongyrchol o Abertawe i Gaerdydd bob awr yn ystod y dydd.

Mae gwasanaethau bws lleol yn gadael safleoedd ger yr orsaf coetsis yn Abertawe ar gyfer bob rhan o’r ddinas a’r rhanbarth, gan gynnwys Gŵyr a’r Mwmbwls; ac o safleoedd cyfagos yng ngorsaf fysus Port Talbot i Aberafan, Cwm Afan a Chastell-nedd.

Ar gyfer gwybodaeth gynhwysfawr am deithio i atyniadau lleol, llety, traethau, llwybrau cerdded a mannau eraill sydd o ddiddordeb i ymwelwyr, ewch i www.swanseabaywithoutacar.com.


Teithio i Fae Abertawe ar Awyren

O’r tu hwnt i’r DU

Mae cysylltiadau trên a choets ardderchog ag Abertawe o feysydd awyr Gatwick a Heathrow Llundain a chysylltiadau trên da o feysydd awyr rhyngwladol Bryste a Chaerdydd. Y maes awyr rhyngwladol agosaf at Abertawe yw Caerdydd – ychydig dros awr i ffwrdd o Fae Abertawe ar y ffordd neu ar drên – a gellir hedfan yno o sawl dinas Ewropeaidd.

Yn y DU

Mae hediadau mewnol i Gaerdydd ar gael o feysydd awyr y DU yn Aberdeen, Ynys Môn, Belfast, Caeredin, Glasgow a Newcastle. Neu, mae gan Abertawe ei faes awyr ei hun sy’n addas ar gyfer awyrennau bach. Mae’r maes awyr yn Fairwood ar Benrhyn Gŵyr.


Teithio i Fae Abertawe ar Long

Mae gan Abertawe – Dinas Glannau Cymru – Farina Baner Las a dociau yng nghanol datblygiad newydd gwerth miliynau o bunnoedd. Mae gwasanaethau fferi yn cyrraedd porthladdoedd Abergwaun a Doc Penfro yng ngorllewin Cymru a phorthladd Caergybi yng ngogledd Cymru.

Fferïau Rosslare – Sir Benfro

Mae fferïau’n teithio rhwng Rosslare (de-ddwyrain Iwerddon) a phorthladdoedd yn Sir Benfro (de-orllewin Cymru). Mae’r porthladdoedd hyn oddeutu 1½ awr mewn car o Fae Abertawe. Mae gan Abergwaun gyswllt trên ag Abertawe sy’n cysylltu â fferïau dydd a thros nos ac mae gan Ddoc Penfro wasanaeth Megabus uniongyrchol i Abertawe (o Rosslare).

Rosslare – Doc Penfro

Gweithredwr: Irish Ferries; Hyd y daith: o 3¾ awr; Rhif ffôn: 0871 7300400, Gwefan: www.irishferries.com.

Rosslare – Abergwaun

Gweithredwr: Stena Line; Hyd y daith: o 3½ awr; Rhif ffôn: 0844 7707070 Gwefan:  www.stenaline.co.uk.


Gwybodaeth gyswllt ddefnyddiol

Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd

Maes Awyr Abertawe