Croeso i wefan digwyddiadau Croeso Bae Abertawe. O’n traethau i ddigwyddiadau mawr a bach, o ffilmiau a theatrau i’n parciau a’n prom godidog – mae cymaint i’w fwynhau yn Abertawe. Cymerwch gipolwg ar ein rhaglenni digwyddiadau, gwybodaeth am ein hatyniadau yn ogystal â blogiau rheolaidd sy’n awgrymu pethau i’w gwneud yn ystod y flwyddyn ym Mae Abertawe. Mae digonedd i’w wneud yn y bae hwn!
Cawsom flwyddyn anhygoel o ddigwyddiadau yn 2022, gyda dychweliad Sioe Awyr Cymru, cyngherddau gydag artistiaid enwog, digwyddiadau newydd sbon fel Ironman Abertawe a Chyfres Para Treiathlon y Byd a ffefrynnau sy’n digwydd bob blwyddyn fel ein Gorymdaith y Nadolig arbennig.
Mae disgwyl i 2023 fod hyd yn oed yn well, felly gadewch i ni edrych yn ôl ar rai o’r adegau arbennig o 2022 i weld beth sydd i’w ddisgwyl!