fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Mae’n amser i fod yn gyffrous oherwydd mae gennym ddigonedd o ddigwyddiadau gwych i chi eu mwynhau ym Mae Abertawe y mis Chwefror hwn!

Croeso mewn cydweithrediad a First Cymru

Cynhelir ein digwyddiad Gŵyl Croeso blynyddol dros bedwar diwrnod o ddydd Iau, 29 Chwefror, a bydd yn cynnwys cerddoriaeth fywarddangosiadau coginioadloniant i deuluoedd a gorymdaith i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a arweinir gan Fand Pibau Dinas Abertawe.

Cynhelir gŵyl Croeso mewn amrywiaeth o leoliadau o amgylch canol y ddinas, gan gynnwys Neuadd Brangwyn ac Arena Abertawe a bydd y ddau’n cynnig digwyddiadau cerddoriaeth cofiadwy mewn lleoliadau dan do o’r radd flaenaf.

Cynhelir arddangosiadau coginio yng nghanol y ddinas rhwng 1 a 3 Mawrth, gan gynnwys y cogydd teledu enwog, Rustie Lee, a fydd yn coginio bwyd gydag elfennau Cymreig! Bydd nifer o ben-gogyddion eraill yn cynnal arddangosiadau, gan gynnwys Hywel Griffith o The Beach House, Oxwich a Tom Surgey a fydd yn arddangos coctels sy’n cynnwys cynhwysion Cymreig!

Mae digwyddiadau’r penwythnos yn parhau gyda sioeau i blant yn St David’s Place, perfformwyr sy’n crwydro, cymeriadau, crefftau a llwybr o amgylch y ddinas gyda bagiau rhoddion ar gael ar gyfer y rheini sy’n ei gwblhau.

Bydd perfformwyr cerddoriaeth fyw yn cynnwys The Phoenix Choir of Wales a’r perfformwyr Cerddoriaeth Gymreig enwog, Gwilym, Islet, Angel Hotel ac Eädyth.

Bydd bandiau Cymreig hefyd yn ymddangos yn ystod Nosweithiau Cerdd, elfen adloniant gyda’r nos y digwyddiad, yn The Bunkhouse, Elysium a Tŷ Tawe.

Gwahoddir busnesau lleol i arddangos eu cynnyrch ac i fod yn rhan o’r hwyl fel masnachwr Bwyd a Diod. Gellir gwneud cais ar-lein. Peidiwch â’i golli!

Croeso mewn cydweithrediad â First Cymru, gyda chefnogaeth gan Bwyd a Diod Cymru.

Digwyddiadau yn Neuadd Brangwyn

Dewch i ddarganfod Neuadd Brangwyn y mis Chwefror hwn! Dewch i ddawnsio yn ystod y profiad fflamenco gorau, Andalucia – Flamenco.

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cyflwyno dau berfformiad anhygoel y mis hwn gydag un yn dathlu popeth Cymreig yn ystod Stravaganza Dydd Gŵyl Dewi ar 29 Chwefror.

Cymerwch gip ar holl ddigwyddiadau Neuadd Brangwyn

Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad a Freedom Leisure

Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad â Freedom Leisure!

Cynhelir seremoni Gwobrau Chwaraeon Abertawe am 7pm nos Iau 28 Mawrth yn Neuadd Brangwyn.

Prynwch eich tocynnau nawr, bydd gostyngiad o 25% yn cael ei ychwanegu’n awtomatig ar gyfer grwpiau o 10 neu fwy.

Prynwch eich tocynnau ar gyfer y seremoni wobrwyo nawr

Mwynhewch Hanner Tymor gyda’r Tîm Chwaraeon ac Iechyd!

Roeddem am roi gwybod i chi am yr holl weithgareddau cyffrous sydd ar y gweill gennym! Paratowch am wythnos llawn dosbarthiadau ffitrwydd, sesiynau galw heibio a gwersylloedd hanner tymor!

Gallwch archebu lle ar gyfer pob sesiwn nawr. Hyn o hyn o leoedd sydd ar gael, felly archebwch le’n gyflym!

I archebu lle ar gyfer y gwersylloedd Us Girls yng Nghanolfan Hamdden Pen-lan, ffoniwch 01792 588079.

 

Cliciwch yma i gadw lle

 Amgueddfa Abertawe

Ewch ar Antur Bywyd Gwyllt yn Amgueddfa Abertawe rhwng dydd Gwener 9 Chwefror a dydd Sul 18 Chwefror.

Bydd Amgueddfa Abertawe’n cymryd rhan yn ‘Antur Amgueddfa Twitchers‘, a drefnwyd gan Kids in Museums a Walker Books. Bydd y llwybr cenedlaethol hwn yn dathlu cyhoeddi ‘Feather’, y llyfr terfynol yng nghyfres The Twitchers.

Dewch i ymuno â gweithdy gwneud barcut iâr fach yr haf ddydd Iau 15 Chwefror rhwng 10am a 12pm.  Gallwch greu barcut lliwgar i’w hedfan ar ddiwrnod gwyntog! Am ddim i bobl o bob oedran ac nid oes angen cadw lle.

Cofiwch gasglu eich Pecyn Fforiwr am ddim sy’n llawn gemau, taflenni lliwio a chrefft i’w wneud gartref.

 

Rhagor o wybodaeth

Llyfrgelloedd Abertawe

Dewch i gael hwyl yn eich llyfrgell leol yr hanner tymor hwn!

O glybiau LEGO, celf a chrefft, amser rhigwm, gemau bwrdd a llawer mwy… Dewch o hyd i’ch llyfrgell leol i weld y gweithgareddau hanner tymor sydd ar gael yno.

Gallwch ddod o hyd i weithgareddau hanner tymor llyfrgelloedd yma!

 

Rhagor o wybodaeth

Oriel Gelf Glynn Vivian

Dewch i gael hwyl yr hanner tymor hwn gydag Oriel Gelf Glynn Vivian!

Ydych chi am roi cynnig ar y Clwb Ffilmiau i Deuluoedd? Dyma’r ffordd berffaith o adlonni eich rhai bach yn ystod hanner tymor, gyda ffilm am ddim i deuluoedd ddydd Mawrth 13 Chwefror!

Chwarae â chysgodion: Dewch i archwilio ac arbrofi gyda byd arbennig cysgodion, gweithgaredd cyffrous ddydd Mercher 14 Chwefror, £3 y plentyn!

 

Rhagor o wybodaeth

Canolfan Dylan Thomas

Bydd y Man Dysgu sy’n addas i deuluoedd ar agor ar gyfer chwarae hunanarweinedig am ddim yr hanner tymor hwn.

Mae gweithgareddau’n cynnwys ysgrifennu creadigol, pypedau, gemau, cornel ddarllen, crefftau a gwisg ffansi sydd wedi cael eu dylanwadu gan yr anifeiliaid sy’n ymddangos yng ngwaith Dylan Thomas.

Mae’n wych ar gyfer teuluoedd sydd â phlant o bob oedran a gallwch alw heibio am ddim

 

Rhagor o wybodaeth