Gŵyl Croeso sy’n dathlu popeth Cymreig a gynhelir yng nghanol dinas Abertawe.
Diwylliant Cymreig lleol o’r radd flaenaf, gan gynnwys:
Ewch i Sgwâr y Castell Abertawe i glywed sŵn hyfryd cerddoriaeth Gymreig cyn symud ymlaen at Stryd Rhydychen, lle gallwch flasu bwydydd a diodydd Cymreig, a gweld nwyddau gwych o waith llaw. Peidiwch â cholli’r arddangosiadau coginio!
Gallwch fwynhau digon o ddiwylliant Cymreig, gan gynnwys cerddoriaeth, barddoniaeth ac adloniant byw. Gallwch hyd yn oed ddweud Shwmae ac ymgolli’ch hun yn yr Iaith Gymraeg, bydd digonedd o gymorth i’r rheini sy’n dysgu (neu sy’n ystyried dysgu) Cymraeg.
Pabell bwyd a diod wedi’i chefnogi gan Nathaniel Cars
Stondinau bwyd, diod a crefft
Marchnad Abertawe
Stondinau bwyd, diod a crefft
Stondinau bwyd, diod a crefft
Pan fyddwch yn ymweld â Gŵyl Croeso 2024, cofiwch godi taflen gystadleuaeth a dilyn Llwybr Dewi Sant i ennill ambell wobr wych!
Mae lluniau gwahanol ar thema Gymreig wedi’u cuddio mewn lleoliadau amrywiol ar draws y ddinas.
Dewch o hyd i bob un o’r 8 llun a nodwch eu lleoliad ynghyd â’ch manylion cyswllt a gallech ennill casgliad o wobrau sy’n cynnwys tocynnau ar gyfer parc trampolîn, tocyn teulu ar gyfer Plantasia, 2 docyn i gêm bêl-droed yr Elyrch (Abertawe V QPR 1ef Ebrill ) a thedi o Plantasia!
Bydd pob cofrestriad a gwblhawyd hefyd yn derbyn bag rhoddion trwy garedigrwydd Original Cottages, a fydd yn cynnwys tocyn mynediad AM DDIM i blentyn ar gyfer Sŵ Trofannol Plantasia, taleb 25% oddi ar bris mynediad parc trampolîn Buzz, a diod o Radnor Hills, a phecyn o 6 o bice ar y maen ceuled lemwn newydd Brace’s Bakery.
Lawrlwythwch y map Llwybr Croeso! Croeso Trail Map 2024
Dewch i ymuno â Menter Iaith Abertawe yn y Babell Cwtsh i ddysgu mwy am gyfleoedd i fwynhau’r iaith Gymraeg yn ardal Abertawe. Croeso mawr i bawb!
Yn ogystal â chyfle i ddysgu mwy am ddigwyddiadau iaith Gymraeg eraill ar y gorwel, bydd yna hefyd cyfleoedd i bori casgliad o nwyddau Siop Tŷ Tawe a dysgu mwy am y cyrsiau mae Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yn cynnig.
Bydd yna gyfleoedd i gwrdd â Mr Urdd a Magi Ann, a bydd Cymraeg i Blant yn darparu sesiynau Stori a Chan yn ogystal â gwybodaeth bellach ynglŷn â chyfleoedd i deuluoedd fwynhau’r iaith Gymraeg gyda’i gilydd. Disgwyliwch gemau ac adloniant dros gyfnod y diwrnod!
Cân i Gymru Launch gyda
6.15pm -6.45pm: Lily Maya
7pm -7.30pm: Mali Hâf
7.45pm -8.15pm: Morgan Elwy
Sgilti (DJ) a Lauren Moore (Cyflwynydd)
6.45pm -7.15pm: Kid Mercury
7.30pm – 8pm: Eädyth
8.15pm – 8.45pm: The Bad Electric
9pm – 9.45pm: Angel Hotel
10pm – 11pm: Islet
7.30pm: Storm Heaven at Taliesin
8pm: Cân i Gymru at Swansea Arena
7.15pm – 7.45pm: Cwtsh
8pm – 8.30pm:Danielle Lewis
8.45pm – 9.30pm:Brigyn
7pm – 11pm: : Sage Todz and Luke RV